Plygain
Canodd y côr yn wych iawn yn y gwasanaeth Plygain a gynhaliwyd yng Nghapel Penygraig, Caerfyrddin, nos Sul, Ionawr 22.
Noson Wyl Ddewi
Bydd y côr yn cynnal Cawl a Chân yn Nhy Tawe, nos Fercher, Chwefror 29 am 7.00.
Nosweithiau’r Nadolig
Cafwyd noson o hwyl y Nadolig yn Nhy Tawe, Nos Sadwrn, Rhagfyr 10 gan gynnwys gwin y gaeaf a danteithion.
Pontlliw
Roedd y noson o adloniant ym Mhontlliw cyn y Nadolig yn llwyddiant mawr. Cafwyd eitemau gan Helen Gibbon a’r côr, a nifer o adroddiadau.
Meseia
Aeth pump aelodau’r côr i helpu dwy sydd hefyd yn aelodau o Gôr y Rhyd i ganu’r Meseia yn Gymraeg cyn y Nadolig. Eglwys San Pedr oedd y lleoliad. Roedd y perfformiad, yn ôl pob sôn, yn llwyddiant mawr.
Dechrau am 7
Mae ymarferion nos Fercher yn cychwyn am 7, yn Nhy Tawe. Croeso i aelodau newydd. Trefnir clyweliad byr efallai. Cysylltwch ag un o’r swyddogion.
Blwyddyn brysur
Uchafbwynt y flwyddyn 2010-2011 oedd y daith i Rovigo, yr Eidal, lle cynhaliwyd tair cyngerdd, gan gynnwys canu yn offeren Sul y Cofio yn eglwys arbennig y Rotonda. Wrth dreulio wythnos yng ngwesty Cristallo, ger yr orsaf, roedd modd teithio’n hawdd i Fenis (ddwywaith), Padova, Ferrara a Bolognia, a gweld rhyfeddodau’r dinasoedd canoloesol hyn. 

Cynhaliwyd cyngherddau yn ystod y flwyddyn yn Nhy Tawe, Bethel Sgeti, Sgeti, Llandeiloferwallt. Yr uchafbwynt cerddorol oedd rhoi dau berfformiad o Er Hwylio’r Haul, o waith Robat Arwyn, yn y Babell, Caerfyrddin a Chapel y Nant, Clydach.
RY’N NI’N EDRYCH MLAEN AT GLYWED ‘DA CHI.
(For information in English, please click on the ‘English’ page.)
(llun y pennawd: Lluniau Llwyfan; gwefan: lluniaullwyfan.com)