CD

Mae’r côr wedi cyhoeddi CD, sydd wedi cael ei chwarae’n aml ar Radio Cymru. Does dim llawer o gopïau’n weddill: cysylltwch os ydych am gael copi.

 

Y côr yn barod i gychwyn am Munich

CADWYN CARIAD

gyda Helen Gibbon: arweinydd / unawdydd

John Evans: Cyfeilydd

Heledd Mitchell: telynores

Mae rhai copiau olaf o CD y côr ar gael o hyd.

Cynhyrchwyd y CD yn 2004, yn dilyn taith lwyddiannus y côr i Awstria a’r Almaen. Cafodd rhai o draciau’r CD eu canu’n gyson gan Grav ar ei raglen O’r Gorllewin. Roedd Helen Gibbon yn un o’i hoff gantoresau.

Cadwyn Cariad yw teitl y CD. Dyma deitl un o’r traciau, sef cadwyn o alawon serch a drefnwyd gan John Evans, cyfeilydd y côr.

Mae’r CD yn cynnwys eitemau gan y côr, Helen Gibbon, soprano, a hefyd Heledd Mitchell, ar y delyn.

£10 yw’r pris.

Ebostiwch Heini i gael copi: heini@gruffudd.org

Cynnwys:

Bydd imi’n olwg

Arglwydd dyma fi (Helen a’r côr)

Lisa lân (Heledd - telyn)

Ar lan y môr (Helen a thelyn)

Cartref (Helen)

Ysbryd y nos

Cân Walter (Heledd - telyn)

Panis Angelicus (Helen)

Cadwyn alawon (Heledd - telyn)

Cymru Fach (Helen)

Hela Faich o Gotwm

Tangnefeddwyr

Hafan Gobaith

Comments are closed.