Cyfansoddiad

Cyfansoddiad Côr Tŷ Tawe


1. Enw

Côr Tŷ Tawe

2. Amcanion

  • Hyrwyddo canu corawl Cymraeg a safonau canu corawl
  • Hybu a helpu aelodau i astudio, ymarfer a pherfformio gweithiau corawl cymysg
  • Creu gweithgarwch sy’n hybu doniau amrywiol o fewn y côr
  • Creu gweithgarwch sy’n hyrwyddo Cymreictod yn Abertawe a’r ardal
  • Cefnogi gweithgarwch elusennol

3. Swyddogion a’r Pwyllgor

Mae swyddi’r isod yn agored i aelodau’r côr ac i’w hethol a’u hailethol yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol:

Prif swyddogion:

  • Cadeirydd
  • Ysgrifennydd
  • Trysorydd

Swyddi eraill:

  • Is-gadeirydd
  • Is-ysgrifennydd
  • Swyddog marchnata / tocynnau
  • Gohebydd y wasg
  • Llyfrgellydd
  • Swyddog Cyngherddau
  • Swyddog Teithiau
  • Cynrychiolydd yr un o’r pedwar llais

Bydd yn arfer da bod pob swydd yn para am gyfnod o dair blynedd.

Bydd y canlynol hefyd yn aelodau o’r pwyllgor:

  • Arweinydd
  • Cyfeilydd

Os bydd aelod o’r pwyllgor am orffen, bydd yn arfer da rhoi dau fis o rybudd.

Os teimlir gan y côr ei bod yn briodol i aelod o’r pwyllgor orffen ei wasanaeth, neu newid ei rôl, bydd angen cytundeb 75% o’r aelodau mewn Cyfarfod Cyffredinol Arbennig..

4. Blwyddyn y Côr

Bydd blwyddyn y côr yn cychwyn ar Fedi 1 ym mhob blwyddyn.

5. Aelodaeth

5.1 Rhaid talu tâl aelodaeth i fod yn aelod o’r côr. Mae’r swm i’w benodi yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Ar hyn o bryd (2008) y swm y £5 y mis.

5.2 Meini prawf ymaelodi â’r côr yw’r canlynol:

Rhaid i bob aelod :

  • fod yn ddeunaw oed neu’n hŷn
  • gallu canu i safon foddhaol, yn ôl barn yr arweinydd
  • bod yn fodlon derbyn cyfarwyddyd canu gan yr arweinydd
  • bydd yn arfer da cynnal rhagwrandawiad

6. Ffioedd

Codir tâl i’w benderfynu yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol am berfformiadau. Gellir hepgor neu gynyddu tâl mewn achosion arbennig trwy drafodaeth y côr lle y bo hynny’n ymarferol.

7. Trefn ariannol

Mae’r flwyddyn ariannol yn diweddu ar Ebrill 5.

Bydd cyfrif banc yn enw’r Côr a llofnodir sieciau gan ddau o blith swyddogion y Côr.

Caiff y Côr dderbyn cyfraniadau, grantiau ac arian tocynnau ac elw digwyddiadau.

Defnyddir yr arian a dderbynnir, yn dâl aelodaeth, ffioedd a dderbynnir am berfformio ac arian ychwanegol a godir trwy amrywiol ffyrdd, e.e. raffl (gw. isod) neu nosweithiau cymdeithasol, i hyrwyddo’r amcanion a nodir uchod.

Mae hyn yn gallu cynnwys talu am y canlynol, yn llawn neu’n rhannol:

i. Tâl ymarfer i’r arweinydd a’r cyfeilydd

ii. Talu am gopïau cerddoriaeth

iii. Talu am cludiant i gyngherddau, lle y bod hynny’n briodol.

iv. Talu am wisgoedd, lle y bo hynny’n briodol.

v. Marchnata a hysbysebu.

vi. Cymorth teithio a llety mewn teithiau corawl.

vii. Costau gweinyddol.

Gall y pwyllgor benderfynu ar y swm i’w neilltuo ar gyfer y gweithgareddau hyn, ond bydd yn arfer da cael cydsyniad aelodau’r côr yn gyffredinol.

Ni ddefnyddir arian y côr at ddibenion eraill, e.e. anrhegion i’r arweinydd / cyfeilydd neu aelodau eraill. Telir am roddion o’r fath yn unigol gan aelodau’r côr, yn ôl eu dewis. Clustnodir elw raffl olaf pob mis at ddibenion cymdeithasol (gw. Polisi isod) ond ad-delir arian ohono ar ddiwedd y flwyddyn ariannol i brif gronfa’r côr yn ôl penderfyniad y pwyllgor.

Gall y pwyllgor wario mân symiau ar gyfer cardiau cyfarch ac ati heb ofyn cydsyniad y côr.

Os yw aelod o’r côr yn dioddef o galedi, gall wneud cais i bwyllgor y côr i drafod y swm aelodaeth sy’n ddyledus arno.

Bydd aelodau newydd yn cychwyn talu £5 o ddyddiad eu pedwerydd ymarfer.

8. Ymarferion

  • Bydd y côr yn ymarfer unwaith yr wythnos, nos Fercher, gan ddechrau yn brydlon am 7.30 o’r gloch yr hwyr neu amser a bennir gan yr arweinydd.
  • Trefnir ymarferion ychwanegol yn ôl y galw yn ôl dymuniad yr arweinydd.
  • Rhaid i aelodau fynychu ymarferion.
  • Os na all aelod fynychu ymarfer, rhaid rhoi gwybod i’r cynrychiolydd llais a / neu i’r arweinydd.
  • Ni chaiff aelod sydd wedi colli tri ymarfer yn olynol neu wedi mynychu llai na deuparth yr ymarferion côr llawn gymryd rhan mewn perfformiad heb ganiatâd y pwyllgor, a fydd wedi ymgynghori â’r arweinydd neu yn ôl penderfyniad yr arweinydd.
  • Rhaid i aelod roi gwybod i’r arweinydd os na all ganu mewn cyngerdd.
  • Ar ôl pennu dyddiad cyngerdd, arfer da yw bod aelodau’n rhoi blaenoriaeth i hyn.

9. Cyngherddau

  • Disgwylir cefnogaeth ac ymrwymiad yr aelodau mewn cyngherddau.
  • Dylid cyflwyno ceisiadau am gyngherddau trwy law’r Trefnydd Cyngherddau.
  • Cyfrifoldeb yr Arweinydd yw trefnu rhaglen.
  • Disgwylir i’r aelodau wisgo gwisg swyddogol y côr mewn cyngherddau, neu wisgo yn ôl penderfyniad yr Arweinydd.

10. Grym y Pwyllgor

Bydd y pwyllgor yn cwrdd o leiaf unwaith bob tymor.

Fe fydd gan y Pwyllgor y pwerau canlynol:

  • Cwrdd yn achlysurol fel bo’r angen i drafod unrhyw faterion sy’n codi wrth weinyddu’r côr neu sy’n effeithio ar y côr mewn unrhyw fodd.
  • Penodi Is-bwyllgorau i weithredu o dan oruchwyliaeth y pwyllgor.
  • Cyfethol aelodau eraill o’r côr i fod yn aelodau o’r Pwyllgor ar gyfer pwrpasau penodol fel bo’r angen.
  • Delio ag unrhyw aelod sydd wedi ymddwyn mewn modd nad yw’n dderbyniol gan gorff y côr.
  • Cyfarwyddo ysgrifennydd y côr i alw Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a Chyfarfodydd Cyffredinol Arbennig.
  • Chwilio ac apwyntio person addas i swydd Arweinydd y Côr, a Chyfeilydd lle bo’r angen.
  • Rhaid cael 5 aelod i greu Cworwm.

11. Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol
Mae gan bob aelod sydd wedi talu aelodaeth yr hawl i fynychu’r Cyfarfod.

  • Cynhelir y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol cyn canol Gorffennaf.
  • Rhaid rhoi pythefnos o rybudd am y cyfarfod i bob aelod.
  • Llywyddir y cyfarfod cyfan gan y Cadeirydd.
  • Gwahoddir enwebiadau wedi eu heilio gogyfer â swyddi’r Pwyllgor i law’r Ysgrifennydd neu aelod arall o’r Pwyllgor cyn y cyfarfod.
  • Derbynnir enwebiadau wedi eu heilio ar lafar neu’n ysgrifenedig ar noson y cyfarfod.
  • 30% o’r aelodau fydd y cworwm ar gyfer cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.
  • Pleidleisir trwy godi llaw neu trwy bleidlais gyfrinachol os yw mwyafrif y rhai sy’n bresennol yn dymuno hyn.
  • Caiff swyddogion y côr a swyddogion y pwyllgor eu hethol yn y cyfarfod hwn.
  • Os yw pleidlais yn gyfartal, bydd gan y Cadeirydd bleidlais fwrw.
  • Caiff cyfrifon y Cor eu drafftio hyd at Ebrill 5, a’u harchwilio gan berson cymwys a’u cyflwyno i’w cymeradwyo yn y Cyfarfod.

12. Galw Cyfarfod Cyffredinol Arbennig

12.1 Gellir galw Cyfarfod Cyffredinol Arbennig:

  • gan y Pwyllgor fel bo’r angen
  • gan o leiaf 10 aelod o’r côr.

12.2 Rhaid rhoi rhag rybudd ysgrifenedig o 21 diwrnod i’r Ysgrifennydd, a fydd yn rhoi pythefnos o rybudd i’r aelodau o’r bwriad i gynnal Cyfarfod Cyffredinol Arbennig.

13. Ni chaniateir i unrhyw aelod gymryd rhan mewn unrhyw drafodaeth neu gyfarfod swyddogol na defnyddio eiddo’r côr oni bai ei fod / bod wedi talu tâl aelodaeth y flwyddyn gyfredol ac unrhyw arian arall sy’n ddyledus.
14. Disgwylir i bob aelod sydd am fod yn absennol o’r côr am gyfnod estynedig neu sydd am orffen â’r côr ddychwelyd unrhyw eiddo sy’n berchen i’r côr.

15. Materion Cyffredinol

Blwyddyn ariannol y côr yw 6 Ebrill – 5 Ebrill.

Bydd gan y Côr bolisïau iaith, cyfle cyfartal, yr amgylchedd a chronfa gymdeithasol (gw. isod).

15. Gohirio neu Ddileu

  • Bydd y côr yn parhau o flwyddyn i flwyddyn oni bai y gelwir Cyfarfod Cyffredinol Arbennig yn ôl y cyfansoddiad hwn, lle mae cynnig i ddileu neu ohirio’r côr yn cael ei basio gan 75% o’r aelodaeth. Derbynnir pleidleisiau ysgrifenedig trwy ddirprwy.
  • Os oes asedau yn weddill ar ôl dileu’r côr a thalu unrhyw ddyledion, ni ddylid eu dosbarthu ymhlith aelodau’r côr. Dylid yn hytrach eu rhoi i sefydliad / au arall / eraill sydd ag amcanion tebyg neu i elusen / nau a ddewisir gan aelodaeth y côr. Bydd angen derbynneb gan unrhyw sefydliad / elusen sy’n derbyn rhodd yn y modd yma.
  • Bydd rhaid i unrhyw aelod sy’n dymuno cynnig newid i’r rheolau yma wneud hynny yn ysgrifenedig i’r Ysgrifennydd o leiaf fis cyn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol neu Gyfarfod Arbennig.
  • Oni bai fod 75% o aelodaeth y Côr yn bresennol ac y ceir mwyafrif, ni ellir addasu neu newid y rheolau yma.


POLISÏAU

Polisi Iaith

  • Cymraeg yw iaith y côr.
  • Cynhelir gwahanol gofnodion ac adroddiadau’r côr yn y Gymraeg.
  • Cynhelir pob gweithgaredd trwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Mae croeso i siaradwyr Cymraeg a rhai sy’n dysgu’r Gymraeg ymuno â’r côr.
  • Mae’r côr yn gyfrwng i ddysgwyr gael cyfle i glywed y Gymraeg ac i’w defnyddio. Anogir dysgwyr i ddefnyddio’r Gymraeg ar bob cyfle.
  • Bydd aelodau’n defnyddio’r Gymraeg ag eraill ar bob cyfle posibl.
  • Cymraeg yw iaith cymdeithasu’r côr.

Polisi Cyfle Cyfartal

  • Mae’r côr yn agored i bawb o bob hil, crefydd, cefndir ethnig a rhyw.
  • Mae’r côr yn ymarfer mewn ystafell y mae modd ei chyrraedd â lifft cadair.
  • Caiff pob aelod ei drin â pharch ac urddas.
  • Bydd aelodau’n trin eraill â pharch ac urddas.
  • Gwneir ymdrech i sicrhau y gall rhai ag anableddau gymryd rhan lawn yng ngweithgareddau’r côr.

Polisi Amgylchedd

  • Bydd aelodau’r côr yn ymdrechu i leihau effeithiau niweidiol cludiant ar yr amgylchedd trwy drefnu bws i gyngherddau lle y bo’n ymarferol.
  • Bydd y côr yn ailgylchu papur gwastraff ac yn ceisio lleihau gwastraff.
  • Bydd y côr yn ceisio peidio â pheri anhwylustod i gymdogion.
  • Bydd y côr yn ymdrechu i ddefnyddio papur o goedwigoedd cynaliadwy.
  • Bydd y côr yn ymdrechu i ddefnyddio nwyddau masnach deg lle y bo’n briodol.
  • Bydd y côr yn ymdrechu i yfed diodydd lleol ac o Gymru.
  • Anogir aelodau i beidio â defnyddio bagiau plastig.

Polisi Cronfa Gymdeithasol

  • Bydd rota cyfrannu anrhegion i raffl y côr, a defnyddir elw raffl olaf pob mis ar gyfer y gronfa gymdeithasol.
  • Gall y pwyllgor ddefnyddio’r gronfa gymdeithasol tuag at drefnu digwyddiadau cymdeithasol y côr.
  • Gall y pwyllgor ddefnyddio’r gronfa gymdeithasol i anrhegu aelod ar achlysur arbennig, e.e. profedigaeth, priodas, genedigaeth, pen blwydd arbennig.
  • Gall y pwyllgor benderfynu anrhegu’r arweinydd, y cyfeilydd am gyfraniad y tu hwnt i ddisgwyliadau arferol eu gwaith.
  • Ni ddylai anrhegion fod yn fwy na £15 eu gwerth heb gydsyniad y côr.
  • Rhoddir gwybod i aelodau’r côr am anrhegion.
  • Gall cyfarfod llawn o’r côr benderfynu anrhegu ar gyfer achlysuron eithriadol.
  • Rhestrir pob gwariant yn adroddiad y gronfa yng nghyfarfod blynyddol y côr.
  • Ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, ad-delir swm i brif gronfa’r côr yn ôl penderfyniad y cyfarfod blynyddol.

Polisi Teithiau Tramor

  • Sefydlir is-bwyllgor i drefnu teithiau tramor
  • Bydd yr is-bwyllgor yn gyfrifol am

i. trefniadau teithio

ii. trefniadau llety

iii. trefniadau cyngherddau

iv. trefniadau gwibdeithiau

v. achlysuron cymdeithasol

  • Penodir prif drefnydd/ion ar gyfer y daith
  • Penderfynir ar gyrchfan y daith gan y côr yn gyfan
  • Bydd y côr yn gallu digolledu costau taith yr arweinydd a’r cyfeilydd yn ôl y galw.
  • Bydd y côr yn gallu pennu swm i ddigolledu trefnwyr y daith lle y bo’n briodol.
  • Bydd yr is-bwyllgor yn cadw cyfrifon y daith.
  • Bydd yr is-bwyllgor yn rhoi sylw i anghenion ariannol penodol aelodau ag amgylchiadau ariannol anodd.

Cafodd y cofnod yma ei bostio yn Trefniadau. Dyma'r cyswllt parhaol.

Comments are closed.