Eisteddfod Caerdydd

Côr Ty Tawe yn Eisteddfod Caerdydd

Cafodd y côr hwyl ar gystadlu yng Nghaerdydd, Awst 2008.

Hynt y cystadlu

Y côr yn ymarfer cyn cystadlu

Helen yn arwain ymarfer y côr cyn cystadlu, a John ar y piano newydd.Diolch i Babell Tai Gwalia am roi lle.  Fe addawon ni roi 10% o’r wobr iddyn nhw…

Ymarfer ym Mhabell Gwalia cyn cystadlu

Y côr yn ymarfer cyn cystadlu.

Llun: Charlotte Davies

(Pob dymuniad da i Charlotte ar ôl bod rhai dyddiau yn yr ysbyty, ac i Clive a gollodd y cystadlu ar ol cael problemau llyncu, a threulio noson yn yr ysbyty.)

“Arddeliad a hwyl a graen”

Er nad enillodd y côr yn yr Eisteddfod, cafodd ganmoliaeth uchel gan y beirniad teledu: ’sain gynnes’, ‘perfformiad ardderchog’.

Meddai beirniaid yr eisteddfod fod y côr wedi canu gydag “arddeliad a hwyl a graen”.

Roedd rhyw 30 yn canu - dipyn yn llai na’r corau buddugol.

‘Hwn yw Ty  Dduw’ (cyfieithiad o Locus Iste, Bruckner), ‘Yr Aderyn’ (o waith Brian Hughes) a ‘Cenwch foliant i’r Iôr’ (Hywel Glyn Lewis) oedd rhaglen y côr, a gafodd ei chanmol am ei hamrywiaeth.

Ar y llwyfan yng Nghaerdydd

Mae lluniau’r côr ar y llwyfan ar gael gan lluniaullwyfan.com

Comments are closed.