Cyngherddau

Mae’r côr wedi bod yn brysur iawn eleni, gyda nifer o gyngherddau llwyddiannus. Darllenwch ‘mlaen i glywed mwy!

Sgeti

Neuadd Eglwys Sant Pawl: i Gymdeithas Cyn-fyfyrwyr Aberystwyth. Cafwyd bwyd danteithiol wedi’r gyngerdd, a gwin: nid bod yn côr yn mynnu hyn bob tro

Caerfyrddin

Capel y Babell, capel Helen, gyda Helen yn canu ac eitemau hyfryd gan ferched y capel. Y tri thenor hefyd ar eu gorau, ac wedyn cafwyd llond festri o fwyd

Llangybi

Capel hudolus yn y wlad, a’r gyngerdd wedi’i recordio a’i darlledu gan Radio Ceredigion. Helen a Teifryn yn swyno, wrth gwrs, a gwledd yn y festri wedyn

Y capel yn y wlad: Llangybi

Capel Llangybi

Anerchiad y gweinidog, Llangybi

Anerchiad y gweinidog

Llandeiloferwallt

yn y Neuadd Gymunedol, i Gymdeithas Gymraeg Llandeiloferwallt. Daeth cynulleidfa o bell ac agos a sgwrs ddifyr uwch paned a bisgedi

Hebron Clydach

Cyngerdd ‘ffarwel’ yn Hebron, yr achlysur olaf yn y capel ar ôl i’r gynlleidfa uno â chapeli eraill yng Nghlydach. Helen a Teifryn eto’n disgleirio, Fiona Gannon yn tynnu pob owns o sain o’r organ ac eitemau gwych gan eraill hefyd

Rhyduchaf, y Bala

Noson arbennig yn y capel bach hwn, gyda’r elw’n mynd i ‘Iogi’ a anafwyd yn ddifrifol mewn gêm rygbi. Cafwyd anerchiad ysbrydoledig gan ei wraig. Canodd Helen a Sion Goronwy yn wych wrth gwrs, ac yna mwynhaodd pawb y bwyd arbennig yng nghartref Gwennan

Lluniau a newyddion i ddod

Cafodd y cofnod yma ei bostio yn Hanes. Dyma'r cyswllt parhaol.

Comments are closed.