CD Ym Mhenrhyn Gwyr

CERDD MERERID HOPWOOD YN GAN DEITL I CD COR TY TAWE

‘Ym Mhenrhyn Gŵyr’, cerdd ddiweddar gan Mererid Hopwood, gyda cherddoriaeth wedi’i chyfansoddi’n arbennig gan Eric Jones i Gôr Tŷ Tawe a Helen Gibbon, yw cân deitl CD newydd Côr Tŷ Tawe.

Mae’r CD yn cynnwys caneuon amrywiol gan y côr, ac unawdau a deuawdau gan Helen Gibbon, yr arweinydd, a Sion Goronwy, y canwr bas o’r Bala.


<!– /* Style Definitions */ p.MsoNormal, li.MsoNormal, div.MsoNormal {mso-style-parent:”"; margin:0cm; margin-bottom:.0001pt; mso-pagination:widow-orphan; font-size:12.0pt; font-family:”Times New Roman”; mso-fareast-font-family:”Times New Roman”;} @page Section1 {size:595.3pt 841.9pt; margin:72.0pt 90.0pt 72.0pt 90.0pt; mso-header-margin:35.4pt; mso-footer-margin:35.4pt; mso-paper-source:0;} div.Section1 {page:Section1;} –> Mae Côr Tŷ Tawe, a sefydlwyd ugain mlynedd yn ôl i hyrwyddo canu corawl Cymraeg yn Abertawe, wedi cael blwyddyn brysur. Cynhaliodd wyth o gyngherddau yn Abertawe a gorllewin Cymru, a mynd ar daith i Gdansk, Gwlad Pŵyl. Hon oedd unfed daith dramor ar ddeg y côr, sydd wedi bod i’r Almaen, Awstria, Iwerddon, Catalwnia, Gweriniaeth Tsiec a Gwlad Pŵyl. <!– /* Style Definitions */ p.MsoNormal, li.MsoNormal, div.MsoNormal {mso-style-parent:”"; margin:0cm; margin-bottom:.0001pt; mso-pagination:widow-orphan; font-size:12.0pt; font-family:”Times New Roman”; mso-fareast-font-family:”Times New Roman”;} @page Section1 {size:595.3pt 841.9pt; margin:72.0pt 90.0pt 72.0pt 90.0pt; mso-header-margin:35.4pt; mso-footer-margin:35.4pt; mso-paper-source:0;} div.Section1 {page:Section1;} –>

<!– /* Style Definitions */ p.MsoNormal, li.MsoNormal, div.MsoNormal {mso-style-parent:”"; margin:0cm; margin-bottom:.0001pt; mso-pagination:widow-orphan; font-size:12.0pt; font-family:”Times New Roman”; mso-fareast-font-family:”Times New Roman”;} @page Section1 {size:595.3pt 841.9pt; margin:72.0pt 90.0pt 72.0pt 90.0pt; mso-header-margin:35.4pt; mso-footer-margin:35.4pt; mso-paper-source:0;} div.Section1 {page:Section1;} –>

Cyngerdd Cwmann

Cododd y côr arian i sawl cronfa elusennol, gan gynnwys cronfa goffa Sera Leyshon a oedd yn aelod o’r côr, a chronfa Yogi, o’r Bala.

Helen Gibbon, athrawes o Gapel Dewi, yw arweinydd y côr. Mae hi wedi ennill y wobr gyntaf ar ganu soprano bedair gwaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Ei chefnder, John Evans, a fu’n athro chwythbrennau, yw cyfeilydd y côr.

Bu Sion Goronwy, sy’n datblygu gyrfa ryngwladol fel canwr opera, yn canu gyda’r côr yn Berlin a Wittenberg, ac mewn cyngerdd ger y Bala. Mae ganddo ddwy unawd ar y CD, a dwy ddeuawd gyda Helen a’r côr.

Dyma ail CD y côr. Cynhyrchwyd a chyhoeddwyd ef gan Gwmni Fflach o Aberteifi. Mae ar gael gan aelodau’r côr, trwy wefan y côr (www.cortytawe.org) a thrwy Siop Tŷ Tawe am £10..

One Response to “CD Ym Mhenrhyn Gwyr”

  1. GARY Says:


    MedicamentSpot.com. Canadian Health&Care.Special Internet Prices.No prescription online pharmacy.Best quality drugs. High quality drugs. Order pills online

    Buy:Lasix.Aricept.Wellbutrin SR.Seroquel.Ventolin.SleepWell.Advair.Buspar.Zetia.Amoxicillin.Lipothin.Benicar.Female Pink Viagra.Lipitor.Nymphomax.Prozac.Female Cialis.Cozaar.Zocor.Acomplia….