CYNGHERDDAU’R HAF
Bu digwyddiad arbennig ddydd Sadwrn, Gorffennaf 10. Priododd Elanna, merch Enid sy’n canu gyda’r sopranos, ym Methel Sgeti, a bu’r côr yn canu yn ystod y gwasanaeth. Daeth hyn â gweithgareddau’r côr i ben am yr haf. Bydd y côr yn ailgychwyn nos Fercher, Medi 8.
Nos Wener, Gorffennaf 2, cynhaliodd Côr gyngerdd i ddathlu agor Festri newydd Bethel, Sgeti. Cafwyd hwyl ar ganu’r Utgorn a Ddiogyn Bach, a hefyd Ym Mhenrhyn Gwyr, ymhlith eitemau eraill. Roedd dwy unawdydd – Abigail Sara ac Eleri Gwilym, a chafwyd datganiad ar y delyn gan Elin Samuel.