Monthly Archives: Ebrill 2015

Anrhydeddu’r Canon John Walters

Cafodd y côr gyfle i gymryd rhan mewn noson i ddiolch i’r Canon John Walters wrth iddo ymddeol.? Cynhaliwyd y noson yn yr Institiwt Pontarddulais gan Gyngor y Bont, nos Iau, Ebrill 29. 2015.

Kevin Johns oedd yn arwain y noson a chafwyd anerchiadau gan Eric Jones, ar ran capeli Pontarddulais, y Tad John Thomas ar ran y Gymuned Gatholig a Norman Lewis ar ran eglwysi Apostolig y cylch.

Gwnaed cyflwyniad i John Walters gan y Cynghorydd Kevin Griffiths, Maer Cyngor Tref Pontarddulais.

Helen yn paratoi'r côr

Helen yn paratoi’r côr

Helen a heledd yn ymarfer Benedictus

Helen a Heledd yn ymarfer Benedictus

Guto, Dafydd, Linda a David

Guto, Dafydd, Linda a David