Archifau Awdur: Heini

Cyngerdd Bethel Sgeti

Cynhaliodd y côr gyngerdd lwyddiannus ym Methel Sgeti, nos Lun, Rhagfyr 1, i godi arian i Eisteddfod yr Urdd yn Abertawe. Cafwyd eitemau gwych gan Gwenllian Llyr ar y Delyn, Eleri Gwilym a Helen Gibbon yn unawdwyr.  John oedd wrth … Parhewch i ddarllen

Postiwyd yn Hanes, Newyddion | Sylwadau ar gau

Helen ar y llwyfan

Cafodd Helen Gibbon, Arweinydd Côr Ty Tawe, yr ail wobr ar yr unawd soprano yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nglyn Ebwy.  Llongyfarchiadau mawr iddi!

Postiwyd yn Hanes, Lluniau, Newyddion | Sylwadau ar gau

Barbyciw haf

Cafwyd gwledd o farbyciw haf ar Orffennaf 24, ar ôl i’r ymarferion ddod i ben. Tri o gogyddion brwd y barbyciw.

Postiwyd yn Hanes, Lluniau, Newyddion | Sylwadau ar gau

CD Côr Ty Tawe

CD YN GWERTHU’N WYCH Mae CD Côr Ty Tawe eisoes yn tynnu am £3,000 o ran gwerthiant.  Cafodd y CD hwb pan ddaeth teledu Tinopolis i ffilmio’r noson lansio ym mwyty Truffles yn Heol Brynymor, Abertawe. ‘Ym Mhenrhyn Gŵyr’, cerdd … Parhewch i ddarllen

Postiwyd yn Hanes, Newyddion | Sylwadau ar gau

cynherddau haf

CYNGHERDDAU’R HAF Bu digwyddiad arbennig ddydd Sadwrn, Gorffennaf 10.  Priododd Elanna, merch Enid sy’n canu gyda’r sopranos, ym Methel Sgeti, a bu’r côr yn canu yn ystod y gwasanaeth. Daeth hyn â gweithgareddau’r côr i ben am yr haf.  Bydd … Parhewch i ddarllen

Postiwyd yn Hanes, Newyddion | Sylwadau ar gau

Recordio CD

Daeth y sesiynau recordio  CD yng Nghapel y Babell, Caerfyrddin, i ben. Recordiwyd deg o ganeuon, gyda Sion Goronwy a Helen Gibbon yn canu Benedictus, Rhisiart Arwel.  Recordiodd Helen Sion hefyd ganeuon ar gyfer y CD.

Postiwyd yn Hanes, Newyddion | Gadewch sylwad

Eisteddfod Caerdydd

Cafodd y côr hwyl ar gystadlu yng Nghaerdydd, Awst 2008.

Postiwyd yn Hanes, Newyddion | Gadewch sylwad

Teithiau

Mae’r côr yn trefnu teithiau cyngerdd yn Ewrop yn gyson. Y mae wedi canu yn Berlin, Salzburg, Barcelona, Prag, Munich, Iwerddon, Kracow, Wittenberg a mannau eraill.

Postiwyd yn Hanes | Gadewch sylwad

Helen a John

Arweinydd y côr yw Helen Gibbon, a John Evans yw’r cyfeilydd.

Postiwyd yn Pwy yw Pwy | Gadewch sylwad

Swyddogion

Caiff swyddogion y côr eu hethol yn flynyddol.  Dyma swyddogion eleni, yn dilyn cyfarfod blynyddol Chwefror 7, 2012:

Postiwyd yn Pwy yw Pwy | Gadewch sylwad