Archifau Awdur: Heini

Gdansk, Ebrill 2009

Cafodd y côr daith lwyddiannus iawn i Gdansk ar ôl y Pasg. Cafwyd dwy gyngerdd, y naill yn y Brifysgol a’r llall mewn eglwys newydd yn un o’r maestrefi mawr.  Roedd y cynulleidfaoedd o gant a hanner yn y ddau … Parhewch i ddarllen

Postiwyd yn Hanes, Lluniau, Newyddion | Tagiwyd â , | Gadewch sylwad

Eisteddfod yr Hendy

Roedd y côr yn fuddugol yn Eisteddfod yr Hendy a gynhaliwyd nos Sadwrn, Mai 9, 2009, gan dderbyn gwobr hael o £300 a’r cwpan a gyflwynwyd i’r Eisteddfod gan yr Eglwysi Rhyddion.

Postiwyd yn Hanes, Newyddion | Tagiwyd â , , | Gadewch sylwad

Cyngerdd Cwmann

Helen yn yr eglwys Noson oer o Ragfyr, sêr yn pefrio, y lleuad yn codi uwch ysgwydd y bryn, ac eglwys gynnes, lawn.

Postiwyd yn Hanes, Newyddion | Gadewch sylwad

Parti Dolig

Cafwyd parti Dolig heb ei ail yn Rhif 13 Abertawe. Lle cynnes, bwyd da, digon o gwmni..

Postiwyd yn Hanes, Lluniau | Gadewch sylwad

Cyngerdd Tabernacl Caerfyrddin

Helen Gibbon cyn Cyngerdd Caerfyrddin Cafwyd cynulleidfa dda yn y gyngerdd yn y Tabernacl, Caerfyrddin, nos Sadwrn, Tachwedd 14, 2008,  i godi arian i Ysbyty Glangwili.

Postiwyd yn Hanes, Newyddion | Gadewch sylwad

Cyngerdd Llangennech

Ymunodd Cor Ty Tawe a Chor y Rhyd i ganu Requiem Faure yn Llangennech, nos Sadwrn, Tachwedd 8, 2008. Yr organydd oedd Alan Fewster, a Cherddorfa Siambr Cymru oedd y gerddorfa. Cafwyd eitemau pellach ganddyn nhw, gan gynnwys Symffoni rhif … Parhewch i ddarllen

Postiwyd yn Hanes, Newyddion | Gadewch sylwad

Cymanfa Ganu : Caniadaeth y Cysegr

Helen Gibbon oedd arweinydd y Gymanfa Ganu a gynhaliwyd nos Sul, Medi 28, 2008, i ddathlu 150 mlwyddiant Capel Trinity, Llanelli. Cynhaliwyd y Gymanfa yng Nghapel Newydd, Llanelli. Canodd y côr ‘Hwn yw Ty Dduw’ yn ogystal â chanu 14 … Parhewch i ddarllen

Postiwyd yn Hanes, Newyddion | Gadewch sylwad

Cyfansoddiad

Cyfansoddiad Côr Tŷ Tawe 1. Enw Côr Tŷ Tawe 2. Amcanion Hyrwyddo canu corawl Cymraeg a safonau canu corawl Hybu a helpu aelodau i astudio, ymarfer a pherfformio gweithiau corawl cymysg Creu gweithgarwch sy’n hybu doniau amrywiol o fewn y … Parhewch i ddarllen

Postiwyd yn Trefniadau | Gadewch sylwad

Priodas

Ddiwedd Gorffennaf dathlwyd priodas un o gyn-aelodau’r côr. Priododd Dr Llinos Roberts ag Aled Williams, cyn-faer Caerfryddin. Aled a Llinos yng ngwesty Pant yr Athro ar ôl priodi yng Nghapel Priordy, Caerfyddin.

Postiwyd yn Newyddion | Gadewch sylwad

Unawdwyr

Mae’r côr wedi cynnal cyngherddau gyda nifer o unawdwyr, yn rhai lleisiol ac offerynnol.

Postiwyd yn Pwy yw Pwy | Gadewch sylwad