Category Archives: Newyddion

Dathlu Gwyl Ddewi

Cynhaliodd y côr noson lwyddiannus yn Nhy Tawe, 1 Mawrth, 2023, gan ddathlu’r wyl yn deilwng. Canodd y côr nifer o eitemau, a chafodd y gynulleidfa dda hwyl yn canu detholiad o ganeuon gwerin.

Marw Henry Dare

Trist iawn yw cofnodi marwolaeth Henry Dare, un o’n haelodau brwd a ffyddlon. Bu’n aelod ers nifer o flynyddoedd. Daeth i Abertawe o Lundain, ac roedd wrth ei fodd yn dysgu’r Gymraeg a dod yn rhan o gymdeithas Gymraeg y ddinas. Yn ffermdy Killay Fawr roedd ganddo berllan, a byddai gwin afalau Harry’n cael ei fwynhau ar wahanol achlysuron. Y tro olaf iddo ganu gyda’r côr oedd yn nathliad Gwyl Ddewi eleni. Roedd yn hoff o gymdeithasu cyn ac ar ôl y côr a bydd aelodau’r côr yn ei golli’n fawr.

Canu Plygain

Bu grwp o’r côr yn canu carolau plygain yng ngwasanaeth carolau Capel Gomer, a gynhaliwyd cyn y Nadolig yng nghapel Mount Pleasant, Ffordd y Brenin, Abertawe. Dafydd Mills, o’r Fenter Iaith, hyfforddodd y côr.

Y côr yn canu carolau plygain
Côr Ty Tawe yn canu yn Mount Pleasant

Barbyciw côr

Barbyciw Haf

Er na lwyddodd y côr i ymarfer oherwydd y pandemig, daeth aelodau’r côr at ei gilydd ym mis Awst i fwynhau barbyciw yn Hafan, Ffynhonne.  Gwyn oedd y cogydd, a daeth aelodau â danteithion blasus i’w mwynhau ar noson braf o haf.

Barbyciw y côr
Barbyciw y côr

Canu yn Sgwâr y castell

Canu yn sgwâr y castell

Côr Ty Tawe’n canu yn Sgwâr y Castell Abertawe. Helen yn arwain a John wrth y piano

 

Helen yn arwain

Mwynhaodd y côr yn Sgwâr y Castell ddydd Sadwrn, 29 Chwefror, ar lwyfan dathlu Gwyl Ddewi’r Cyngor.


 Mwynhaodd y côr yn Sgwâr y Castell ddydd Sadwrn 29 Chwefror, ar lwyfan dathlu Gwyl Ddewi‘r Cyngor.

Colli Eleri

Llun: Eleri gydag Elgar ac Elid ym mhriodas Llinos, rai blynyddoedd yn ôl.

Tristwch mawr eleni oedd colli un o aelodau mwyaf pybyr y côr.  Bu farw Eleri Morris ar y 15fed o Ionawr, ar ôl cyfnod o salwch.  Bu’n garedig a hael wrth yr holl aelodau, ac roedd wrth ei bodd yn canu yng nghyngherddau’r côr ac ar y teithiau.  Bydd bwlch mawr ar ei hôl. Cydymdeimlwn ag Emyr, sy’n dal yn aelod o’r côr, ac Elid a’u teulu.

Canu Plygain


Yn ôl ei arfer blynyddol, manteisiodd y côr ar y cyfle i ganu yng ngwasanaeth Plygain eglwys Llanddarog, nos Sul, 12 Ionawr, 2020. Darparodd Janet wledd, ac roedd hyn yn sail ardderchog i ganu’r côr.

Cinio Nadolig

Cinio Nadolig y côr yn Verve
Helen yn annerch

Dathlodd aelodau’r côr y Nadolig trwy gael cinio yng ngoruwchystafell bwyty Verve, yn yr Uplands, Abertawe, nos Wener, 13 Rhagfyr.

Cyngherddau’r Nadolig

Ty Tawe a Mount Pleasant

Dathlu’r Nadolig yn Nhy Tawe
Helen yn mwynhau
Helen yn arwain

Bu’r côr yn weithgar yng nghyfnod y Nadolig, 2019.  Canodd y côr ddwywaith yn ystod dathliadau Nadolig Ty Tawe, gyda phlant Ysgol Gymraeg Bryn-y-môr hefyd yn diddanu. Roedd Ffair Nadolig y Fenter nos Wener, Tachwedd 22, a chyngerdd Nadolig nos Wener, Rhagfyr 20. Roedd neuadd lawn y ddwy noson.

Derec, gweinidog Capel Gomer, yn annerch yng nghapel Mount Pleasant

Canodd y côr hefyd yng nghapel Mount Pleasant, yng ngwasanaeth Nadolig Capel Gomer.  Roedd dau gant yno i fwynhau’r gwasanaeth Cymraeg, a chafwyd gwledd yn dilyn y gwasanaeth, diolch i aelodau’r capel.  Mae Capel Gomer yn cwrdd yn Nhy Tawe bob prynhawn Sul.

Cyngherddau’r Croesholiad

Caerfyrddin a Chlydach

Y côr gyda’r unawdwyr, a John, Helen a Nicki

Bu’r côr yn canu’r Croeshoeliad, gan John Stainer, gyda Chôr Seingar, yng Nghaerfyddin nos Sul, Mawrth 24 ac eto yng Nghapel y Nant, Clydach, nos Sul, y 7fed o Ebrill.

Yn hanner cyntaf y gyngerdd, canodd y corau, dan arweiniad Nicki Roderick,  eitemau Carly Simon (Cod i ddeffro Gwalia Wen), a Rhys Jones (O Gymru), a chafwyd eitemau uniol a deuawdau gan Helen Gibbon, Gwyn Morris ac Efan Williams. Y ddau olaf oedd unawdwyr y Croeshoeliad, a Helen yn arwain.

Yng Nghaerfyrddin Meirion Wynn Jones oedd yr organydd, a Fiona Gannon oedd wrth yr organ yn Nghlydach.

Codwyd £1000 i Lyfrau Llafar Cymru, a £300 i Gronfa Madagasgar.

Côr Ty Tawe a Chôr Seingar yng Nghapel y Nant, Clydach