Helen yn America
Dydd Iau, 15 Gorffennaf, 2010Aeth Helen Gibbon, arweinydd y côr, i ganu yn America ddiwedd mis Mai. Roedd hi’n unawdydd gyda Chôr Meibion Ystradgynlais, a bu’n cynnal cyngherddau yn Scranton a Wilksbarre, ac yn cynorthwyo gyda chymanfaoedd canu, ac yn canu yn Efrog Newydd yn ‘Nhir Difancoll’. Hi arweiniodd gyngerdd olaf y côr yn Efrog Newydd.

