Pytiau o Lluniau

Gdansk, Ebrill 2009

Dydd Sul, 10 Mai, 2009

Cor Ty Tawe Gdansk 2009Cyngerdd yn yr eglwys

Cafodd y côr daith lwyddiannus iawn i Gdansk ar ôl y Pasg.

Cafwyd dwy gyngerdd, y naill yn y Brifysgol a’r llall mewn eglwys newydd yn un o’r maestrefi mawr.  Roedd y cynulleidfaoedd o gant a hanner yn y ddau le wrth eu bodd gyda’r côr, ac ar eu traed yn dilyn cymeradwyaeth frwd. Mwy…

Yn Stiwdio Heno

Dydd Mawrth, 3 Mawrth, 2009

Cor Ty Tawe yn stiwdio Heno

Oeddech chi’n canu gyda’r côr yn gynnar yn y 90au? Does dim llawer o’r rhain yn dal i ganu gyda’r côr. Cysylltwch i ddweud.

Taith Iwerddon 199?

Dydd Gwener, 19 Rhagfyr, 2008

mewn tafarn yn Iwerddon

Un o deithiau cynnar y côr i’r Wyl Ban-geltaidd yn Tralee, (ennill wrth gwrs!) ac ambell un o’r cor yn edrych dipyn yn iau, yn eu plith Angharad, Heledd Mitchell, Ceri Anwen a John… Mwy…

Parti Dolig

Dydd Sul, 14 Rhagfyr, 2008

Cafwyd parti Dolig heb ei ail yn Rhif 13 Abertawe.

Lle cynnes, bwyd da, digon o gwmni.. Mwy…