Pytiau o Newyddion

Helen yn America

Dydd Iau, 15 Gorffennaf, 2010

Aeth Helen Gibbon, arweinydd y côr, i ganu yn America ddiwedd mis Mai.  Roedd hi’n unawdydd gyda Chôr Meibion Ystradgynlais, a bu’n cynnal cyngherddau yn Scranton a Wilksbarre, ac yn cynorthwyo gyda chymanfaoedd canu, ac yn canu yn Efrog Newydd yn ‘Nhir Difancoll’.  Hi arweiniodd gyngerdd olaf y côr yn Efrog Newydd.

Priodas yn Bethel

Dydd Iau, 15 Gorffennaf, 2010

Bu digwyddiad arbennig ddydd Sadwrn, Gorffennaf 10.  Priododd Elanna, merch Enid sy’n canu gyda’r sopranos, ym Methel Sgeti, a bu’r côr yn canu yn ystod y gwasanaeth. Daeth hyn â gweithgareddau’r côr i ben am yr haf.

Cyngerdd Bethel Sgeti

Dydd Mercher, 7 Gorffennaf, 2010

Nos Wener, Gorffennaf 2, cynhaliodd y Cor gyngerdd i ddathlu agor Festri newydd Bethel, Sgeti. Cafwyd hwyl ar ganu’r Utgorn a Ddiogyn Bach, a hefyd Ym Mhenrhyn Gwyr, ymhlith eitemau eraill. Roedd dwy unawdydd - Abigail Sara ac Eleri Gwilym, a chafwyd datganiad ar y delyn gan Elin Samuel.

Cyngerdd Llandeiloferwallt

Dydd Iau, 24 Mehefin, 2010

Cynhaliwyd cyngerdd llwyddiannus yn Llandeiloferwallt, nos Lun, Mehefin 21, 2010.  Cymdeithas Gymraeg yr ardal oedd yn cynnal y noson, a hwn oedd y trydydd tro i’r Côr gael gwahoddiad i ganu yno. Cafwyd eitemau gan Helen, Heledd a Lowri ac adroddiad gan Catrin. Yr uchafbwynt oedd Yr Utgorn, gan Joseph Parry.

Cawl a Chân

Dydd Sul, 30 Mai, 2010

CAWL A CHAN YN NHY TAWE

Cynhaliwyd noson lwyddiannus iawn i ddathlu Gwyl Ddewi Sul, Chwefror 28.  Daeth llond neuadd i fwynhau cawl blasus a baratowyd gan aelodau’r côr ac i glywed y côr yn canu nifer o ganeuon o’i rhaglen newydd

 

CD Ym Mhenrhyn Gwyr

Dydd Sul, 13 Rhagfyr, 2009

CERDD MERERID HOPWOOD YN GAN DEITL I CD COR TY TAWE

‘Ym Mhenrhyn Gŵyr’, cerdd ddiweddar gan Mererid Hopwood, gyda cherddoriaeth wedi’i chyfansoddi’n arbennig gan Eric Jones i Gôr Tŷ Tawe a Helen Gibbon, yw cân deitl CD newydd Côr Tŷ Tawe.

Mae’r CD yn cynnwys caneuon amrywiol gan y côr, ac unawdau a deuawdau gan Helen Gibbon, yr arweinydd, a Sion Goronwy, y canwr bas o’r Bala.


Mwy…

Recordio CD

Dydd Llun, 26 Hydref, 2009

Daeth y sesiynau recordio  CD yng Nghapel y Babell, Caerfyrddin, i ben.

Recordiwyd deg o ganeuon, gyda Sion Goronwy a Helen Gibbon yn canu Benedictus, Rhisiart Arwel.  Recordiodd Helen Sion hefyd ganeuon ar gyfer y CD.

Cyngerdd Capel Awst

Dydd Gwener, 9 Hydref, 2009

Cynhaliwyd cyngerdd llwyddiannus yng Nghapel Awst, Caerfyrddin, nos Iau Hydref 8, 2009. Daeth cynulliad da ynghyd, a chanodd y côr lawer o’r caneuon a fydd ar y CD newydd. Yn eu plith roedd Ym Mhenrhyn Gwyr, geiriau Mererid Hopwood, cerddoriaeth Eric Jones, a gyfansoddwyd yn benodol i’r côr. Mwy…

Llongyfarchiadau

Dydd Mawrth, 11 Awst, 2009

Llongyfarchiadau i Helen ein harweinydd ar ddod yn 3edd yn y gystadleuaeth Lieder (39 yn cystadlu) a hefyd yn 3ydd yn y gystadleuaeth Mezzo-soprano yn Eisteddfod Genedlaethol Meirionydd a’r cylch eleni.  Dyma’r tro cyntaf iddi gystadlu yn y gystadleuaeth hon. Cafodd ganmoliaeth uchel gan y beirniaid.

Gdansk, Ebrill 2009

Dydd Sul, 10 Mai, 2009

Cor Ty Tawe Gdansk 2009Cyngerdd yn yr eglwys

Cafodd y côr daith lwyddiannus iawn i Gdansk ar ôl y Pasg.

Cafwyd dwy gyngerdd, y naill yn y Brifysgol a’r llall mewn eglwys newydd yn un o’r maestrefi mawr.  Roedd y cynulleidfaoedd o gant a hanner yn y ddau le wrth eu bodd gyda’r côr, ac ar eu traed yn dilyn cymeradwyaeth frwd. Mwy…