Eisteddfod yr Hendy
Dydd Sul, 10 Mai, 2009Roedd y côr yn fuddugol yn Eisteddfod yr Hendy a gynhaliwyd nos Sadwrn, Mai 9, 2009, gan dderbyn gwobr hael o £300 a’r cwpan a gyflwynwyd i’r Eisteddfod gan yr Eglwysi Rhyddion.
Roedd y côr yn fuddugol yn Eisteddfod yr Hendy a gynhaliwyd nos Sadwrn, Mai 9, 2009, gan dderbyn gwobr hael o £300 a’r cwpan a gyflwynwyd i’r Eisteddfod gan yr Eglwysi Rhyddion.
Helen yn yr eglwys
Noson oer o Ragfyr, sêr yn pefrio, y lleuad yn codi uwch ysgwydd y bryn, ac eglwys gynnes, lawn.
Helen Gibbon cyn Cyngerdd Caerfyrddin
Cafwyd cynulleidfa dda yn y gyngerdd yn y Tabernacl, Caerfyrddin, nos Sadwrn, Tachwedd 14, 2008, i godi arian i Ysbyty Glangwili. Mwy…
Ymunodd Cor Ty Tawe a Chor y Rhyd i ganu Requiem Faure yn Llangennech, nos Sadwrn, Tachwedd 8, 2008. Yr organydd oedd Alan Fewster, a Cherddorfa Siambr Cymru oedd y gerddorfa. Cafwyd eitemau pellach ganddyn nhw, gan gynnwys Symffoni rhif un gan William Boyce a Concerto Grosso Op.6 rhif 12 gan Handel. Mwy…
Helen Gibbon oedd arweinydd y Gymanfa Ganu a gynhaliwyd nos Sul, Medi 28, 2008, i ddathlu 150 mlwyddiant Capel Trinity, Llanelli. Cynhaliwyd y Gymanfa yng Nghapel Newydd, Llanelli. Canodd y côr ‘Hwn yw Ty Dduw’ yn ogystal â chanu 14 o emynau gyda’r gynulleidfa. Cymerwyd rhan hefyd gan Gôr Curiad. Recordiwyd y cyfan ar gyfer rhaglen Caniadaeth y Cysegr
Ddiwedd Gorffennaf dathlwyd priodas un o gyn-aelodau’r côr. Priododd Dr Llinos Roberts ag Aled Williams, cyn-faer Caerfryddin.
Aled a Llinos yng ngwesty Pant yr Athro ar ôl priodi yng Nghapel Priordy, Caerfyddin. Mwy…
Mae piano Roland symudol newydd at ddefnydd y côr. Rydyn ni felly’n gallu cynnal cyngerddau mewn unrhyw neuadd neu leoliad sydd heb biano.
Mae croeso ichi gysylltu â ni os ydych chi’n trefnu cyngerdd lle nad oes piano neu organ.