CD Ym Mhenrhyn Gwyr

CERDD MERERID HOPWOOD YN GAN DEITL I CD COR TY TAWE

?Ym Mhenrhyn G?yr?, cerdd ddiweddar gan Mererid Hopwood, gyda cherddoriaeth wedi?i chyfansoddi?n arbennig gan Eric Jones i Gôr Tŷ Tawe a Helen Gibbon, yw c?n deitl CD newydd Côr Tŷ Tawe.

Mae?r CD yn cynnwys caneuon amrywiol gan y côr, ac unawdau a deuawdau gan Helen Gibbon, yr arweinydd, a Sion Goronwy, y canwr bas o?r Bala.

Mae Côr Tŷ Tawe, a sefydlwyd ugain mlynedd yn ôl i hyrwyddo canu corawl Cymraeg yn Abertawe, wedi cael blwyddyn brysur. Cynhaliodd wyth o gyngherddau yn Abertawe a gorllewin Cymru, a mynd ar daith i Gdansk, Gwlad P?yl.Hon oedd unfed daith dramor ar ddeg y côr, sydd wedi bod i?r Almaen, Awstria, Iwerddon, Catalwnia, Gweriniaeth Tsiec a Gwlad P?yl.

?Cyngerdd CwmannCododd y côr arian i sawl cronfa elusennol, gan gynnwys cronfa goffa Sera Leyshon a oedd yn aelod o?r côr, a chronfa Yogi, o?r Bala.

Helen Gibbon, athrawes o Gapel Dewi, yw arweinydd y côr. Mae hi wedi ennill y wobr gyntaf ar ganu soprano bedair gwaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Ei chefnder, John Evans, a fu?n athro chwythbrennau, yw cyfeilydd y côr.

Bu Sion Goronwy, sy?n datblygu gyrfa ryngwladol fel canwr opera, yn canu gyda?r côr yn Berlin a Wittenberg, ac mewn cyngerdd ger y Bala. Mae ganddo ddwy unawd ar y CD, a dwy ddeuawd gyda Helen a?r côr.

Dyma ail CD y côr. Cynhyrchwyd a chyhoeddwyd ef gan Gwmni Fflach o Aberteifi. Mae ar gael gan aelodau?r côr, trwy wefan y côr (www.cortytawe.org) a thrwy Siop Tŷ Tawe am ?10..