Cyngerdd Treforys

Cyngerdd Treforys

trafod cyn cychwyn

Cafwyd hwyl ar gyngerdd cynta?r flwyddyn nos Iau, 15 Ionawr, yn y Tabernacl, Treforys, i Gymdeithas Gymraeg Treforys. Sefydlwyd y gymdeithas hon yn dilyn Eisteddfod Abertawe 2006. Canodd y côr ddwsin o ganeuon, gan gynnwys Tangnefeddwyr ac Ym Mhenrhyn Gwyr, cerddoriaeth Eric Jones, a Chytgan y Caethweision, Verdi.

Helen gydag un o'r cwmwl tystion

Yr unwawdwyr oedd Heledd Evans a Dafydd Hywel Evans, nith a nai i Helen Gibbon, yr arweinydd, gyda John, ei chefnder, yn cyfeilio. Roedd dwy o ganeuon y diweddar Rhys Jones yn rhan o?u rhaglen, Beth wna?r heniaith, a Cilfan y Coed.

Marian a Sal yn trafod