cynherddau haf

CYNGHERDDAU’R HAF

Bu digwyddiad arbennig ddydd Sadwrn, Gorffennaf 10.? Priododd Elanna, merch Enid sy’n canu gyda’r sopranos, ym Methel Sgeti, a bu’r côr yn canu yn ystod y gwasanaeth. Daeth hyn ? gweithgareddau’r côr i ben am yr haf.? Bydd y côr yn ailgychwyn nos Fercher, Medi 8.

Nos Wener, Gorffennaf 2, cynhaliodd?Côr gyngerdd i ddathlu agor?Festri newydd Bethel, Sgeti.? Cafwyd hwyl ar ganu’r Utgorn a Ddiogyn Bach, a hefyd Ym Mhenrhyn Gwyr, ymhlith eitemau eraill.? Roedd dwy unawdydd – Abigail Sara ac Eleri Gwilym, a chafwyd datganiad ar y delyn gan Elin Samuel.