Hanes y Côr

Hanes y côr

Sefydlwyd Côr Tŷ Tawe yn 1990 yn gôr pedwar llais i siaradwyr Cymraeg a dysgwyr Abertawe a?r cylch. (T? Tawe yw canolfan Gymraeg Abertawe.)

Helen Gibbon, athrawes o Gapel Dewi, yw arweinydd y côr. Mae hi wedi ennill y wobr gyntaf ar ganu soprano bedair gwaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Ei chefnder, John Evans, a fu?n athro chwythbrennau, yw cyfeilydd y côr.

Mae?r côr yn canu amrywiaeth o alawon gwerin, emynau a chaneuon modern a darnau clasurol.? Cychwynnodd y côr yn gôr i bobl ifanc, ac mae’n dal i roi lle amlwg i’r aelodau iau.? Mae’r côr wedi codi arian i sawl cronfa elusennol, gan gynnwys cronfa goffa Sera Leyshon a oedd yn aelod o?r côr, a chronfa Yogi, o?r Bala.

Mae’r côr yn croesawu aelodau newydd: cysylltwch os ydych chi’n gallu canu – mae’r manylion cyswllt yn yr adran ‘Cysylltu’ > ‘Ymuno’.

Mae’r côr hefyd yn croesawu ceisiadau ar gyfer cyngherddau: mae’r manylion yn yr adran ‘Cysylltu’ > ‘Trefnu cyngerdd?’

Bu?r côr yn cynnal cyngherddau ledled de Cymru, ac enillodd y gystadleuaeth i gorau bach yng Ng?yl Ban-Geltaidd Iwerddon bedair gwaith.

Teithiau tramor

Taith i Gdansk, Gwlad Pwyl, oedd uchafbwynt 2009 i Côr Tŷ Tawe. ?Aeth 22 o gantorion ar y daith, Ebrill 14-19, a chanu yn y Brifysgol yn Gdansk a hefyd yn un o eglwysi mawr y maestrefi. ?Roedd y gwesty ger sgw?r Solidarnosc. Cafwyd cyfle i weld canol y dref a ailadeiladwyd yn gain ar ôl dinistr y rhyfel. ?Mae rhagor am y daith hon i’w weld ar dudalen Hanes/Lluniau wefan.

Mae?r côr hefyd wedi teithio?n eang, gan gynnwys cyngherddau yn yr Almaen, Awstria, Gwlad P?yl, a Phr?g, lle y canodd mewn cyngherddau yn Eglwys St Nicolas, ar yr hen sgw?r, ac yn neuadd y dref, Nusle. Bu?r côr ar daith i Awstria a?r Almaen yn 2004 gyda chyngherddau yn eglwys gadeiriol Salzburg, Mondsee, Zell am See a Grafing ger Munich.

Yn 2005 teithiodd i Berlin a Wittenberg, ac yn 2007 bu?n canu yn eglwys gadeiriol Barcelona, eglwys abaty Montserrat ac eglwys St Pacia.