Monthly Archives: Chwefror 2020

Canu yn Sgwâr y castell

Canu yn sgwâr y castell

Côr Ty Tawe’n canu yn Sgwâr y Castell Abertawe. Helen yn arwain a John wrth y piano

 

Helen yn arwain

Mwynhaodd y côr yn Sgwâr y Castell ddydd Sadwrn, 29 Chwefror, ar lwyfan dathlu Gwyl Ddewi’r Cyngor.


 Mwynhaodd y côr yn Sgwâr y Castell ddydd Sadwrn 29 Chwefror, ar lwyfan dathlu Gwyl Ddewi‘r Cyngor.

Colli Eleri

Llun: Eleri gydag Elgar ac Elid ym mhriodas Llinos, rai blynyddoedd yn ôl.

Tristwch mawr eleni oedd colli un o aelodau mwyaf pybyr y côr.  Bu farw Eleri Morris ar y 15fed o Ionawr, ar ôl cyfnod o salwch.  Bu’n garedig a hael wrth yr holl aelodau, ac roedd wrth ei bodd yn canu yng nghyngherddau’r côr ac ar y teithiau.  Bydd bwlch mawr ar ei hôl. Cydymdeimlwn ag Emyr, sy’n dal yn aelod o’r côr, ac Elid a’u teulu.

Canu Plygain


Yn ôl ei arfer blynyddol, manteisiodd y côr ar y cyfle i ganu yng ngwasanaeth Plygain eglwys Llanddarog, nos Sul, 12 Ionawr, 2020. Darparodd Janet wledd, ac roedd hyn yn sail ardderchog i ganu’r côr.

Cinio Nadolig

Cinio Nadolig y côr yn Verve
Helen yn annerch

Dathlodd aelodau’r côr y Nadolig trwy gael cinio yng ngoruwchystafell bwyty Verve, yn yr Uplands, Abertawe, nos Wener, 13 Rhagfyr.

Cyngherddau’r Nadolig

Ty Tawe a Mount Pleasant

Dathlu’r Nadolig yn Nhy Tawe
Helen yn mwynhau
Helen yn arwain

Bu’r côr yn weithgar yng nghyfnod y Nadolig, 2019.  Canodd y côr ddwywaith yn ystod dathliadau Nadolig Ty Tawe, gyda phlant Ysgol Gymraeg Bryn-y-môr hefyd yn diddanu. Roedd Ffair Nadolig y Fenter nos Wener, Tachwedd 22, a chyngerdd Nadolig nos Wener, Rhagfyr 20. Roedd neuadd lawn y ddwy noson.

Derec, gweinidog Capel Gomer, yn annerch yng nghapel Mount Pleasant

Canodd y côr hefyd yng nghapel Mount Pleasant, yng ngwasanaeth Nadolig Capel Gomer.  Roedd dau gant yno i fwynhau’r gwasanaeth Cymraeg, a chafwyd gwledd yn dilyn y gwasanaeth, diolch i aelodau’r capel.  Mae Capel Gomer yn cwrdd yn Nhy Tawe bob prynhawn Sul.