Author Archives: Catrin

Helen yn America

Aeth Helen Gibbon, arweinydd y côr, i ganu yn America ddiwedd mis Mai.? Roedd hi’n unawdydd gyda Chôr Meibion Ystradgynlais, a bu’n cynnal cyngherddau yn Scranton a Wilksbarre, ac yn cynorthwyo gyda chymanfaoedd canu, ac yn canu yn Efrog Newydd yn ‘Nhir Difancoll’.? Hi arweiniodd gyngerdd olaf y côr yn Efrog Newydd.

Priodas yn Bethel

Bu digwyddiad arbennig ddydd Sadwrn, Gorffennaf 10.? Priododd Elanna, merch Enid sy’n canu gyda’r sopranos, ym Methel Sgeti, a bu’r côr yn canu yn ystod y gwasanaeth. Daeth hyn ? gweithgareddau’r côr i ben am yr haf.

Cyngerdd Bethel Sgeti

Nos Wener, Gorffennaf 2, cynhaliodd y Cor gyngerdd i ddathlu agor Festri newydd Bethel, Sgeti. Cafwyd hwyl ar ganu’r Utgorn a Ddiogyn Bach, a hefyd Ym Mhenrhyn Gwyr, ymhlith eitemau eraill. Roedd dwy unawdydd – Abigail Sara ac Eleri Gwilym, a chafwyd datganiad ar y delyn gan Elin Samuel.

Cyngerdd Llandeiloferwallt

Cynhaliwyd cyngerdd llwyddiannus?yn Llandeiloferwallt, nos Lun, Mehefin 21, 2010.? Cymdeithas Gymraeg yr ardal oedd yn cynnal y noson, a hwn oedd y trydydd tro i?r Côr gael gwahoddiad i ganu yno. Cafwyd eitemau gan Helen, Heledd a Lowri ac adroddiad gan Catrin. Yr uchafbwynt oedd Yr Utgorn, gan Joseph Parry.

Cawl a Ch

CAWL A CHAN YN NHY TAWE

Y côr yn Nhy Tawe

Cynhaliwyd noson lwyddiannus iawn i?ddathlu Gwyl Ddewi?Sul, Chwefror 28.? Daeth llond neuadd i fwynhau cawl blasus a baratowyd gan aelodau’r côr ac i glywed y côr yn canu nifer o ganeuon o’i rhaglen newydd

?

CD Ym Mhenrhyn Gwyr

CERDD MERERID HOPWOOD YN GAN DEITL I CD COR TY TAWE

?Ym Mhenrhyn G?yr?, cerdd ddiweddar gan Mererid Hopwood, gyda cherddoriaeth wedi?i chyfansoddi?n arbennig gan Eric Jones i Gôr Tŷ Tawe a Helen Gibbon, yw c?n deitl CD newydd Côr Tŷ Tawe.

Mae?r CD yn cynnwys caneuon amrywiol gan y côr, ac unawdau a deuawdau gan Helen Gibbon, yr arweinydd, a Sion Goronwy, y canwr bas o?r Bala.

Continue reading

Cyngerdd Capel Awst

Cynhaliwyd cyngerdd llwyddiannus yng Nghapel Awst, Caerfyrddin, nos Iau Hydref 8, 2009. Daeth cynulliad da ynghyd, a chanodd y côr lawer o’r caneuon a fydd ar y CD newydd. Yn eu plith roedd Ym Mhenrhyn Gwyr, geiriau Mererid Hopwood, cerddoriaeth Eric Jones, a gyfansoddwyd yn benodol i’r côr. Continue reading

Llongyfarchiadau

Llongyfarchiadau i Helen ein harweinydd ar ddod yn 3edd yn y gystadleuaeth Lieder (39 yn cystadlu) a hefyd yn 3ydd yn y gystadleuaeth Mezzo-soprano yn Eisteddfod Genedlaethol Meirionydd a’r cylch eleni.? Dyma’r tro cyntaf iddi gystadlu yn y gystadleuaeth hon. Cafodd ganmoliaeth uchel gan y beirniaid.