Daeth llond neuadd yn Llandeiloferwallt i glywed cyngerdd haf Côr Ty Tawe nos Lun, Mehefin 19, 2018. Canodd y côr ddeg o ganeuon Cymraeg, gan gynnwys medli o ganeuon Ryan Davies, Ym Mhenrhyn Gwyr o waith Mererid Hopwood ac Eric Jones, Cân Walter Meic Stevens, Ffalabalam, a Tangnefeddwyr, eto gan Eric Jones.
Canodd Helen Hedd yn y Dyffryn, o waith Nan Lewis ac Eric Jones. Cafwyd cyflwyniadau o ddarnau barddoniaeth gan Sali Wyn, Heini, Guto, Linda a Catrin. John Evans oedd yn cyfeilio.