Cyngerdd Bethel Sgeti

Cynhaliodd y côr gyngerdd lwyddiannus ym Methel Sgeti, nos Lun, Rhagfyr 1, i godi arian i Eisteddfod yr Urdd yn Abertawe.

Cafwyd eitemau gwych gan Gwenllian Llyr ar y Delyn, Eleri Gwilym a Helen Gibbon yn unawdwyr.? John oedd wrth y piano, a chanodd y côr ddetholiad o ganeuon Cymraeg diweddar a thraddodiadol.