{"id":2,"date":"2008-07-09T13:43:15","date_gmt":"2008-07-09T12:43:15","guid":{"rendered":"http:\/\/cortytawe.org\/?page_id=2"},"modified":"2026-06-17T10:46:44","modified_gmt":"2026-06-17T09:46:44","slug":"about","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/cortytawe.org\/","title":{"rendered":"C\u00f4r T\u0177 Tawe:                                                                                                                                                       Mae&#8217;r c\u00f4r yn cwrdd bob nos Lun am 7.   Croeso i gantorion newydd. Dewch ar y noson neu ebostiwch y cadeirydd, Carey Thomas: careythomas2@aol.com"},"content":{"rendered":"\n<p>Mae&#8217;r c\u00f4r yn cwrdd am 7 bob nos Lun, yn ystod tymhorau ysgol, yn Nhy Tawe, 9 Stryd Christina, Abertawe SA1 4EW.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Cyngerdd Canol Haf<\/h2>\n\n\n\n<p>Mwynhaodd y c\u00f4r groeso cynnes Cymdeithas Gymraeg Llandeilo Ferwallt ar y 15fed o Fehefin, 2026. Canodd y c\u00f4r wyth o eitemau, gan orffen gydag Eryr Pengwern, o sioe Heledd, Cwmni Theatr Maldwyn, a&#8217;r Tangnefeddwyr, gosodad Eric Jones o gerdd Waldo Williams. Canodd Linda Williams Diwn Sol-ffa, a rhoddodd Catrin Alun ddatganiad o Colli Iaith. Canodd Rex Beynon Bugeilio&#8217;r Gwenith Gwyn a chanodd Llywelyn Gannon ddwy eitem ar yr ewffoniwm. Yr unawdwyr yng nghaneuon y c\u00f4r oedd Helen Evans a Bill Gannon. Arweiniwyd y noson yn ddeheuig gan Edward-Rhys Harry a&#8217;r cyfeilydd oedd Fiona Gannon. yr Athro Emeritws Prys Morgan groesawodd y c\u00f4r.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><a href=\"https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/Llandeilo-ferwallt-RE-2026-2-scaled.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"495\" src=\"https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/Llandeilo-ferwallt-RE-2026-2-1024x495.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-2574\" srcset=\"https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/Llandeilo-ferwallt-RE-2026-2-1024x495.jpg 1024w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/Llandeilo-ferwallt-RE-2026-2-300x145.jpg 300w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/Llandeilo-ferwallt-RE-2026-2-768x371.jpg 768w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/Llandeilo-ferwallt-RE-2026-2-1536x742.jpg 1536w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/Llandeilo-ferwallt-RE-2026-2-2048x990.jpg 2048w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/Llandeilo-ferwallt-RE-2026-2-624x302.jpg 624w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/a><figcaption class=\"wp-element-caption\">C\u00f4r Ty Tawe yn Llandeilo Ferwallt                                Llun: Rob Evans<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Blwyddyn brysur<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae blwyddyn brysur yn dod i ben, o dan arweiniad Edward-Rhys Harry. Bydd y flwyddyn yn cyrraedd uchafbwynt gyda chyngerdd yn Llandeilo Ferwallt ar y 15fed o Fehefin, yn Neuadd Murton.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full is-resized\"><a href=\"https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/image.png\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"517\" height=\"734\" src=\"https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/image.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2534\" style=\"width:314px;height:auto\" srcset=\"https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/image.png 517w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/image-211x300.png 211w\" sizes=\"auto, (max-width: 517px) 100vw, 517px\" \/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<p><\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Cystadlu yn Eisteddfod Cwm Tawe a chanu Requiem Faur\u00e9<\/h2>\n\n\n\n<p>Daeth parti o&#8217;r c\u00f4r yn drydydd mewn cystadleuaeth i gorau yn eisteddfod newydd Cwm Tawe, ym Mhontardawe. Ymunodd aelodau o&#8217;r c\u00f4r ag aelodau o g\u00f4r o Lundain i ganu Requiem Faur\u00e9, o dan arweiniad Edward-Rhys Harry yn eglwys Margam.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><a href=\"https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/image-1.png\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"956\" height=\"552\" src=\"https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/image-1.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2536\" srcset=\"https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/image-1.png 956w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/image-1-300x173.png 300w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/image-1-768x443.png 768w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/image-1-624x360.png 624w\" sizes=\"auto, (max-width: 956px) 100vw, 956px\" \/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<p><strong>Cyngerdd Gwyl Ddewi<\/strong> <strong>2 Mawrth 2026<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Ar yr 2il o Fawrth cafwyd noson hwyliog yn Nhy Tawe. Canodd y c\u00f4r wyth o ganeuon, gan gynnwys Yr Utgorn o waith Pedr Fardd, ar alaw gan W. Matthews Williams, Salm 23 gan Euros Rhys Evans, Ar lan y m\u00f4r wedi ei threfnu gan Alan Ll. Thomas. Canodd Llywelyn Gannon y g\u00e2n fywiog, Cloc Tad-cu ar offeryn chwyth. Adroddodd Catrin Alun y gerdd Dewi Sant gan Robat Powel, a chanodd Bill Gannon Tra bo dau. Adroddodd Linda Williams y gerdd ddoniol a phigog, Over the Llestri gan Aled Lewis Evans. Gorffennodd y c\u00f4r gyda Y Cwm gan Huw Chiswell a Tangnefeddwyr ar gerddoriaeth Eric Jones.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full is-resized\"><a href=\"https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/image-3.png\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"850\" height=\"562\" src=\"https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/image-3.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2540\" style=\"width:380px;height:auto\" srcset=\"https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/image-3.png 850w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/image-3-300x198.png 300w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/image-3-768x508.png 768w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/image-3-624x413.png 624w\" sizes=\"auto, (max-width: 850px) 100vw, 850px\" \/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full is-resized\"><a href=\"https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/image-4.png\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"744\" height=\"491\" src=\"https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/image-4.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2541\" style=\"width:350px;height:auto\" srcset=\"https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/image-4.png 744w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/image-4-300x198.png 300w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/image-4-624x412.png 624w\" sizes=\"auto, (max-width: 744px) 100vw, 744px\" \/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<p><strong>NOSON GAROLAU, 15 Rhagfyr 2025<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Uchafbwynt y noson garolau oedd datganiad y c\u00f4r o bump o garolau gan Daniel Protheroe, wedi eu trefnu gan Edward-Rhys Harry. Ymysg eitemau eraill gan y c\u00f4r roedd Rhown Foliant o&#8217;r Mwyaf gan Rhys Pritchard, ar alaw W.S.Gwynn Williams, ac Awn i Fethlem, eto gan Rhys Pritchard, ar alaw Gymreig. Canodd Catrin a Linda Suai&#8217;r gwynt, a chanodd Bill y Tri Brenin, cyfieithiad Fiona o garol Peter Cornelius. Canodd Fiona ddwy eitem ar y piano, yn drefniannau o Ganol Gaeaf Noethlwm a Dawel Nos. Adroddodd Carey Thomas y gerdd Neithiwr gan Crwys ac adroddwyd Ar Noson fel Heno gan T. Llew Jones gan Helen Evans. Yn ogystal \u00e2 chanu ar y noson hon, bu&#8217;r c\u00f4r yn canu yng ngwasanaeth carolau Cymraeg eglwys Sant Iago, yr Uplands ganol Rhagfyr.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><a href=\"https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/image-2.png\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"436\" src=\"https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/image-2-1024x436.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2538\" srcset=\"https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/image-2-1024x436.png 1024w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/image-2-300x128.png 300w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/image-2-768x327.png 768w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/image-2-624x266.png 624w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/image-2.png 1027w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<p><strong>Edward-Rhys Harry yn Ymuno fel Arweinydd&nbsp;<\/strong><\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full is-resized\"><a href=\"https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2025\/08\/image.png\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"160\" height=\"207\" src=\"https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2025\/08\/image.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2473\" style=\"width:162px;height:auto\"\/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<p>Mae C\u00f4r Ty Tawe yn hynod falch o gyhoeddi penodiad Dr Edward-Rhys\u202fHarry fel Arweinydd y C\u00f4r o fis Medi\u202f2025.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn wreiddiol o Benclawdd, mae Dr\u202fHarry yn arweinydd corawl a chyfansoddwr o fri rhyngwladol, sy&#8217;n parhau i fod yn agos at ei wreiddiau ym Mhenrhyn Gw\u0177r. Mae&#8217;n angerddol am gerddoriaeth Gymraeg a&#8217;r p\u0175er sydd gan gerddoriaeth i gryfhau cymunedau a Chymreictod yn Abertawe a&#8217;r cylch.<\/p>\n\n\n\n<p>Dr Harry oedd y Cymro cyntaf i raddio mewn Arwain Corawl yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru, ac yn 2022 enillodd Dlws y Cerddor yn Eisteddfod Genedlaethol Tregaron am ei opera siambr Gymraeg &#8216;Yr Islawr&#8217;.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Dr Harry hefyd yn Rheolwr Datblygu a Llesiant Cerddorol i Military Wives Choirs, ac yn Gyfansoddwr Preswyl i Music for Life. Mae&#8217;n dod \u00e2 chefndir cerddorol amrywiol sydd wedi ymestyn i neuaddau cyngerdd, tai opera, eglwysi cadeiriol a sianeli radio ledled y byd.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd y C\u00f4r yn ymarfer bob Lun  am 7 o\u2019r gloch yn Nhy Tawe, Abertawe. Mae\u2019r C\u00f4r yn croesawu aelodau newydd, ac mae&#8217;n agored i siaradwyr a dysgwyr Cymraeg ar bob lefel sy\u2019n chwilio am brofiad cerddorol cwbl Gymraeg.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd penodiad Dr\u202fHarry yn nodi cyfnod newydd ac ysbrydoledig i G\u00f4r Ty Tawe, gan gynnig cyfleoedd cerddorol newydd i aelodau\u2019r C\u00f4r ac i\u2019r gymuned ehangach.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Fiona Gannon yn gyfeilydd<\/strong><\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full is-resized\"><a href=\"https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2025\/08\/image-1.png\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"291\" height=\"305\" src=\"https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2025\/08\/image-1.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2476\" style=\"width:288px;height:auto\" srcset=\"https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2025\/08\/image-1.png 291w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2025\/08\/image-1-286x300.png 286w\" sizes=\"auto, (max-width: 291px) 100vw, 291px\" \/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<p>Bydd C\u00f4r Ty Tawe hefyd yn ennill cyfeilydd newydd, Fiona Gannon. Cyfieithydd yw Fiona wrth ei gwaith.  Bu&#8217;n ddarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe, Hi yw arweinydd Capel y Nant, Clydach, ac mae&#8217;n rhedeg siop O law i law yng Nghlydach, sy&#8217;n codi arian i Ty Croeso, Clydach.  Mae ganddi brofiad helaeth o ganu&#8217;r piano a&#8217;r organ a nifer o offerynnau eraill.  Bu&#8217;n unawdydd ar yr organ yn  nifer o gyngherddau C\u00f4r Ty Tawe yng Nghymru ac ar y cyfandir a chynhaliodd gyngherddau organ yn Neuadd Brangwyn, Abertawe.. <\/p>\n\n\n\n<p><strong>C\u00f4r Ty Tawe yn Ystumllwynarth<\/strong><\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><a href=\"https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/Cor-yn-Ystumllwynarth.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"816\" src=\"https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/Cor-yn-Ystumllwynarth-1024x816.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-2462\" srcset=\"https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/Cor-yn-Ystumllwynarth-1024x816.jpg 1024w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/Cor-yn-Ystumllwynarth-300x239.jpg 300w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/Cor-yn-Ystumllwynarth-768x612.jpg 768w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/Cor-yn-Ystumllwynarth-1536x1224.jpg 1536w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/Cor-yn-Ystumllwynarth-624x497.jpg 624w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/Cor-yn-Ystumllwynarth.jpg 1577w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<p>Fore Sadwrn y 12fed o Orffennaf canodd C\u00f4r Ty Tawe am y tro olaf o dan arweiniad Bethan Wynne Phillips.<\/p>\n\n\n\n<p>Ar \u00f4l dwy flynedd lwyddiannus iawn gyda\u2019r c\u00f4r, mae Bethan yn symud ymlaen i ddatblygu ei gyrfa fel therapydd cerdd.<\/p>\n\n\n\n<p>Canodd y c\u00f4r ddetholiad o ganeuon Cymraeg i gynulleidfa werthfawrogol yn neuadd Eglwys Ystumllwynarth.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd y c\u00f4r yn gweld ei heisiau\u2019n fawr gan iddi fod yn arweinydd a chyfeilydd. Yn ystod ei chyfnod gyda\u2019r c\u00f4r cynyddodd yr aelodaeth, a chynhaliwyd nifer dda o gyngherddau gan gynnwys cyngerdd yng Nghapel y Boro, Llundain.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd y c\u00f4r yn ailgychwyn 8 Medi gydag arweinydd a chyfeilydd newydd- manylion cyffrous i ddod.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><strong>C\u00f4r T\u0177 Tawe\u2019n dathlu diwedd tymor<\/strong><\/h4>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large is-resized\"><a href=\"https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/Bethan-yn-gadael-1.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"805\" height=\"1024\" src=\"https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/Bethan-yn-gadael-1-805x1024.jpg\" alt=\"Bethan yn cael ei hanrhegu\" class=\"wp-image-2458\" style=\"width:396px;height:auto\" srcset=\"https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/Bethan-yn-gadael-1-805x1024.jpg 805w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/Bethan-yn-gadael-1-236x300.jpg 236w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/Bethan-yn-gadael-1-768x977.jpg 768w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/Bethan-yn-gadael-1-624x794.jpg 624w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/Bethan-yn-gadael-1.jpg 818w\" sizes=\"auto, (max-width: 805px) 100vw, 805px\" \/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<p>Cafodd C\u00f4r T\u0177 Tawe noson braf o haf i ddathlu diwedd y flwyddyn. Cynhaiwyd y noson yn nh\u0177 Clem, un o\u2019r altos.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn ysod y noson anrhegwyd Bethan Wynne Phillips sy\u2019n ymadael \u00e2\u2019r c\u00f4r ar \u00f4l treulio dwy flynedd lwyddiannus yn arwain ac yn cyfeilio.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae croeso i aelodau newydd ddod 8 Medi pan fydd y c\u00f4r yn ailgychwyn gydag arweinydd a chyfeilydd newydd.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><a href=\"https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/noson-ty-Clem.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"768\" src=\"https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/noson-ty-Clem-1024x768.jpg\" alt=\"Noson gymdeithasol\" class=\"wp-image-2460\" srcset=\"https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/noson-ty-Clem-1024x768.jpg 1024w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/noson-ty-Clem-300x225.jpg 300w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/noson-ty-Clem-768x576.jpg 768w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/noson-ty-Clem-1536x1152.jpg 1536w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/noson-ty-Clem-624x468.jpg 624w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/noson-ty-Clem.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Canu yn Llandeiloferwallt<\/h2>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><a href=\"https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/Llandeilo-fw-1.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"683\" src=\"https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/Llandeilo-fw-1-1024x683.jpg\" alt=\"Canu yn Llandeiloferwallt\" class=\"wp-image-2403\" srcset=\"https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/Llandeilo-fw-1-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/Llandeilo-fw-1-300x200.jpg 300w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/Llandeilo-fw-1-768x512.jpg 768w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/Llandeilo-fw-1-624x416.jpg 624w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/Llandeilo-fw-1.jpg 1139w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/a><figcaption class=\"wp-element-caption\">Canu yn Llandeiloferwallt<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p>Cafodd y c\u00f4r, dan arweiniad Bethan Wynne Phillips, groeso mawr gan yr Athro Prys Morgan yng nghyfarfod Cymdeithas Gymraeg Llandeiloferwallt nos Lun, 16 Mehefin, 2025. Canon nhw&#8217;r eitemau hyn:<\/p>\n\n\n\n<p>Fflabalam = traddodiadol \u2013 trefniant W Tudor Jones; Popeth hardd sydd yn y byd \u2013 John Rutter; Y cyfan sydd gen i i\u2019w roi \u2013 Robin Llwyd ab Owain, Robat Arwyn; Dashenka \u2013 Islwyn Ffowc Elis; Y Cwm = Huw Chiswell, trefniant Alun Guy; Ar lan y m\u00f4r \u2013 traddodiadol, trefniant Alan Llewelyn Thomas; Hafan Gobaith \u2013 Eleri Richards, Delyth Rees; Y Tangnefeddwyr \u2013 Waldo Williams, Eric Jones; Cyfrinach y G\u00e2n \u2013 Glenys Roberts, Eric Jones.  Darllenodd Catrin Alun gerdd Etifeddiaeth, Gerallt Lloyd Owen.<\/p>\n\n\n\n<p>Roedd gwledd ar \u00f4l y gyngerdd, a phawb yn mwynhau noson hirddydd haf.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Canu yn nathliadau Gwyl Ddewi Aberawe <\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Cafodd y c\u00f4r gyfle i ganu ddwywaith yn nathliadau &#8216;Croeso&#8217; Gwyl Ddewi Abertawe, y tro cyntaf yn y llwyfan agored ger y bont newydd, ac yn ail, yn y farchnad.  Bu tipyn o hwyl ar y canu. Mae&#8217;r c\u00f4r yn awr yn edrych ymlaen at ganu yn Ystumllwynarth ac yn Llandeiloferwallt yr haf yma.<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-media-text is-stacked-on-mobile\"><figure class=\"wp-block-media-text__media\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"606\" src=\"https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2025\/04\/IMG_5271-1-1024x606.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-2378 size-full\" srcset=\"https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2025\/04\/IMG_5271-1-1024x606.jpg 1024w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2025\/04\/IMG_5271-1-300x177.jpg 300w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2025\/04\/IMG_5271-1-768x454.jpg 768w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2025\/04\/IMG_5271-1-624x369.jpg 624w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2025\/04\/IMG_5271-1.jpg 1386w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure><div class=\"wp-block-media-text__content\">\n<p><\/p>\n<\/div><\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-media-text is-stacked-on-mobile\"><figure class=\"wp-block-media-text__media\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"642\" src=\"https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2025\/04\/IMG_5273-1024x642.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-2380 size-full\" srcset=\"https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2025\/04\/IMG_5273-1024x642.jpg 1024w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2025\/04\/IMG_5273-300x188.jpg 300w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2025\/04\/IMG_5273-768x481.jpg 768w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2025\/04\/IMG_5273-624x391.jpg 624w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2025\/04\/IMG_5273.jpg 1280w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure><div class=\"wp-block-media-text__content\">\n<p><\/p>\n<\/div><\/div>\n\n\n\n<p><strong>Taith i Lundain<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Cafodd y c\u00f4r daith lwyddiannus i Lundain ym mis Chwefror, 2025. Gwahoddwyd y c\u00f4r i ganu yng Nghapel y Boro, Southwark, gan rannu cyngerdd gyda Ch\u00f4r y Boro. Roedd yn brofiad arbennig. Canodd y c\u00f4r nifer o eitemau, gan gynnwys tair eitem ar y cyd \u00e2 Ch\u00f4r y Boro, gan orffen gyda datganiad o&#8217;r Tangnefeddwyd, trefniant Eric Jones, a Hafan Gobaith. Roedd gwledd helaeth i bawb wedi&#8217;i pharatoi ar \u00f4l y gyngerdd.<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-media-text is-stacked-on-mobile\"><figure class=\"wp-block-media-text__media\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"756\" src=\"https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2025\/04\/IMG_5147-1024x756.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-2382 size-full\" srcset=\"https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2025\/04\/IMG_5147-1024x756.jpg 1024w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2025\/04\/IMG_5147-300x221.jpg 300w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2025\/04\/IMG_5147-768x567.jpg 768w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2025\/04\/IMG_5147-624x460.jpg 624w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2025\/04\/IMG_5147.jpg 1160w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure><div class=\"wp-block-media-text__content\">\n<p><\/p>\n<\/div><\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-media-text is-stacked-on-mobile\"><figure class=\"wp-block-media-text__media\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"768\" src=\"https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2025\/04\/IMG_5143-1024x768.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-2383 size-full\" srcset=\"https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2025\/04\/IMG_5143-1024x768.jpg 1024w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2025\/04\/IMG_5143-300x225.jpg 300w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2025\/04\/IMG_5143-768x576.jpg 768w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2025\/04\/IMG_5143-1536x1152.jpg 1536w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2025\/04\/IMG_5143-2048x1536.jpg 2048w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2025\/04\/IMG_5143-624x468.jpg 624w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure><div class=\"wp-block-media-text__content\">\n<p><\/p>\n<\/div><\/div>\n\n\n\n<p><strong>C\u00f4r T\u0177 Tawe yn diddanu<\/strong> <strong>yn Nhreforys<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Dechreuodd rhaglen 2025 Cymdeithas Gymraeg Treforys gydag adloniant gan G\u00f4r T\u0177 Tawe, o dan arweiniad Bethan Wynne Phillips. Merch a\u2019i gwreiddiau yn Nhreforys yw hi, yn wyres i\u2019r athronydd Dewi Z Phillips.<\/p>\n\n\n\n<p>Canodd y c\u00f4r eitemau gan John Rutter, Islwyn Ffowc Elis, Eric Jones, Karl Jenkins, trefniant Alun Guy o Y Cwm, Huw Chiswell a hanner dwsin o eitemau eraill.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd y c\u00f4r yn teithio i Lundain ganol Chwefror i ganu gyda Ch\u00f4r y Boro, yng nghapel y Boro. Dyma <a><\/a>daith gyntaf y c\u00f4r ers i Bethan gymryd at yr awenau.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full is-resized\"><a href=\"https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2025\/01\/Cor-TT-Treforys-1.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"912\" height=\"769\" src=\"https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2025\/01\/Cor-TT-Treforys-1.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-2340\" style=\"width:530px;height:auto\" srcset=\"https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2025\/01\/Cor-TT-Treforys-1.jpg 912w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2025\/01\/Cor-TT-Treforys-1-300x253.jpg 300w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2025\/01\/Cor-TT-Treforys-1-768x648.jpg 768w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2025\/01\/Cor-TT-Treforys-1-624x526.jpg 624w\" sizes=\"auto, (max-width: 912px) 100vw, 912px\" \/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><a href=\"https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2025\/01\/Cor-TT-Treforys-2.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"422\" src=\"https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2025\/01\/Cor-TT-Treforys-2-1024x422.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-2341\" srcset=\"https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2025\/01\/Cor-TT-Treforys-2-1024x422.jpg 1024w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2025\/01\/Cor-TT-Treforys-2-300x124.jpg 300w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2025\/01\/Cor-TT-Treforys-2-768x317.jpg 768w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2025\/01\/Cor-TT-Treforys-2-624x257.jpg 624w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2025\/01\/Cor-TT-Treforys-2.jpg 1382w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<p><strong>Cyngerdd yn Ystumllwynarth<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Llanwyd eglwys Ystumllwynarth nos Iau, 24 Hydref pan gynhaliwyd cyngerdd i godi arian tuag at Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2025.<\/p>\n\n\n\n<p>Cafodd y gynulleidfa wledd yn gwrando ar gorau ysgolion Cymraeg Bryn-y-m\u00f4r a Llwynderw, a hefyd G\u00f4r y Gweilch a Ch\u00f4r T\u0177 Tawe. Ymunodd y corau gyda\u2018i gilydd ar ddiwedd y gyngerdd i ganu Hafan Gobaith.<\/p>\n\n\n\n<p>Arweiniwyd c\u00f4r Llwynderw gan Sammy Bond ac Angharad Bean, gyda Bethan Wynne Phillips yn cyfeilio. Linda Willliams oedd arweinydd c\u00f4r Bryn-y-m\u00f4r, a Chris Lewis ar y piano. Chris Lewis arweiniodd G\u00f4r y Gweilch a Berian Lewis ar y piano. Bethan Wynne Phillips oedd arweinydd C\u00f3r T\u0177 Tawe, a Chris Lewis yn cyfeilio.<\/p>\n\n\n\n<p>Ymysg yr uchafbwyntiau roedd Cadwyn Disney gan Lwynderw; Adiemus Karl Jenkins gan Fryn-y-M\u00f4r; Sanctus gan G\u00f4r y Gweilch; a\u2019r Cwm, Huw Chiswell, gan G\u00f4r T\u0177 Tawe.<\/p>\n\n\n\n<p>Trefnwyd y gyngerdd gan Bwyllgor De Gwyr.<\/p>\n\n\n\n<p>Rhai o sopranos C\u00f4r Ty Tawe<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><a href=\"https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/Ystumllwynarth-1-1.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"811\" src=\"https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/Ystumllwynarth-1-1-1024x811.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-2289\" srcset=\"https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/Ystumllwynarth-1-1-1024x811.jpg 1024w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/Ystumllwynarth-1-1-300x238.jpg 300w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/Ystumllwynarth-1-1-768x608.jpg 768w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/Ystumllwynarth-1-1-624x494.jpg 624w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/Ystumllwynarth-1-1.jpg 1512w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><a href=\"https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/Ystumllwynarth-2.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"585\" src=\"https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/Ystumllwynarth-2-1024x585.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-2290\" srcset=\"https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/Ystumllwynarth-2-1024x585.jpg 1024w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/Ystumllwynarth-2-300x171.jpg 300w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/Ystumllwynarth-2-768x439.jpg 768w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/Ystumllwynarth-2-1536x878.jpg 1536w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/Ystumllwynarth-2-624x356.jpg 624w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/Ystumllwynarth-2.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<p>Llun: y corau\u2018n canu Hafan Gobaith gyda Bethan Wynne Phillips yn arwain<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Cyngerdd yn Llys Nini<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Cynhaliodd C\u00f4r T\u0177 Tawe gyngerdd ddymunol yn Llys Nini, nos Fercher 16 Hydref. Daeth nifer dda i\u2019r neuadd newydd yn Llys Nini, sy\u2019n ganolfan i\u2019r RSPCA yn Abertawe.<\/p>\n\n\n\n<p>Canodd y c\u00f4r nifer o ganeuon cysylltiedig ag Abertawe, gan gynnwys Y Cwm a Tangnefeddwyr. Unawdydd dwy g\u00e2n oedd Bill Gannon.<\/p>\n\n\n\n<p>Llun: Bethan Wynne Phillips a\u2019r c\u00f4r<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><a href=\"https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/Llys-Nini-2.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"578\" src=\"https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/Llys-Nini-2-1024x578.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-2285\" srcset=\"https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/Llys-Nini-2-1024x578.jpg 1024w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/Llys-Nini-2-300x169.jpg 300w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/Llys-Nini-2-768x434.jpg 768w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/Llys-Nini-2-1536x867.jpg 1536w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/Llys-Nini-2-624x352.jpg 624w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/Llys-Nini-2.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<p><\/p>\n\n\n\n<p><strong>Blwyddyn dda i G\u00f4r Ty Tawe<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae C\u00f4r Ty Tawe wedi mwynhau blwyddyn arbennig ers penodi Bethan Wynne Phillips yn arweinydd. Hi hefyd sy&#8217;n cyfeilio.  Mae niferoedd y c\u00f4r wedi tyfu yn ystod y flwyddyn am mae gan y c\u00f4r yn awr 28 o aelodau.  Ar \u00f4l cyfnod o ansicrwydd yn ystod blynyddoedd covid, mae&#8217;r c\u00f4r wedi adfywio.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"640\" height=\"444\" src=\"https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/capel-y-nant-2024.jpg\" alt=\"Cyngerdd Gwyl Ddewi, Capel y Nant 2024\" class=\"wp-image-2249\" srcset=\"https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/capel-y-nant-2024.jpg 640w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/capel-y-nant-2024-300x208.jpg 300w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/capel-y-nant-2024-624x433.jpg 624w\" sizes=\"auto, (max-width: 640px) 100vw, 640px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Cyngerdd Gwyl Ddewi yng Nghapel y Nant, 2024<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p>Roedd uchafbwyntiau&#8217;r flwyddyn yn cynnwys cyngerdd Gwyl Ddewi yng Nghapel y Nant, Clydach, a noson braf gyda Chymdeithas Gymraeg Llandeiloferwallt ym mis Mehefin.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"640\" height=\"377\" src=\"https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/nadolig-2023.jpg\" alt=\"Cyngerdd yn Nhy Tawe\" class=\"wp-image-2251\" srcset=\"https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/nadolig-2023.jpg 640w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/nadolig-2023-300x177.jpg 300w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/nadolig-2023-624x368.jpg 624w\" sizes=\"auto, (max-width: 640px) 100vw, 640px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Cyngerdd yn Nhy Tawe Nadolig 2023<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p>Yn ogystal \u00e2 hyn cynhaliodd y c\u00f4r gyngerdd Nadolig i lond neuadd yn Nhy Tawe, a chynhaliwyd cyngerdd Gwyl Ddewi yno hefyd.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"640\" height=\"295\" src=\"https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/gwyl-ddewi-2024.png\" alt=\"Cyngerdd Gwyl Ddewi yn Nhy Tawe 2024\" class=\"wp-image-2250\" srcset=\"https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/gwyl-ddewi-2024.png 640w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/gwyl-ddewi-2024-300x138.png 300w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/gwyl-ddewi-2024-624x288.png 624w\" sizes=\"auto, (max-width: 640px) 100vw, 640px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Cyngerdd Gwyl Ddewi yn Nhy Tawe 2024<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p>Canodd y c\u00f4r yng ngwasanaeth Plygain Eglwys Gorseinon ym mis Ionawr.<\/p>\n\n\n\n<p><\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">C\u00f4r Ty Tawe wedi ail-lansio<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae c\u00f4r Ty Tawe wedi ail-lansio ym mis Medi, 2023, gyda Bethan Wynne Phillips yn arweinydd ac yn gyfeilydd.  Mae Bethan yn dod o deulu lleol adnabyddus.  Roedd ei thad-cu, yr Athro Dewi Z. Phillips, yn un o athronwyr mwyaf Cymru.  Roedd yn Athro ym Mhrifysgol Abertawe.  <\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-gallery has-nested-images columns-default is-cropped wp-block-gallery-1 is-layout-flex wp-block-gallery-is-layout-flex\">\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><a href=\"https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2023\/10\/Bethan-WP.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1060\" height=\"795\" data-id=\"1740\" src=\"https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2023\/10\/Bethan-WP-edited.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-1740\" srcset=\"https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2023\/10\/Bethan-WP-edited.jpg 1060w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2023\/10\/Bethan-WP-edited-300x225.jpg 300w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2023\/10\/Bethan-WP-edited-1024x768.jpg 1024w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2023\/10\/Bethan-WP-edited-768x576.jpg 768w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2023\/10\/Bethan-WP-edited-624x468.jpg 624w\" sizes=\"auto, (max-width: 1060px) 100vw, 1060px\" \/><\/a><\/figure>\n<\/figure>\n\n\n\n<p>Erbyn hyn mae 15 o aelodau newydd wedi ymuno \u00e2&#8217;r c\u00f4r, a&#8217;r c\u00f4r yn mynd o nerth i nerth.<\/p>\n\n\n\n<p>Croeso i aelodau newydd.  Rydyn ni&#8217;n cwrdd yn Nhy Tawe, 9 Christina St., Abertawe, rhwng 7 a 9 bob nos Fercher.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Diolch i Helen a John<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Daeth llond neuadd ynghyd ym mis Medi i ddiolch i Helen Gibbon a John Evans am roi 30 mlynedd o wasanaeth i&#8217;r c\u00f4r, yn arweinydd ac yn gyfeilydd.<\/p>\n\n\n\n<p>Mwynhaodd pawb wledd a noson hwyliog o gymdeithasu.  Yn ystod y noson cyflwynwyd anrheg i&#8217;r ddau, llun yr un o waith Judith Porch, caligraffydd o fri yn Abertawe.  Gyda bae Rhosili&#8217;n gefndir, ysgrifennwyd geiriau cerdd Mererid Hopwood, Ym Mhenrhyn Gwyr yn gain.  Ysgrifennodd yr Archdderwydd Mererid y gerdd i&#8217;r c\u00f4r, a chyfansoddwyd cerddoriaeth iddi gan Eric Jones.<\/p>\n\n\n\n<p><\/p>\n\n\n\n<p><strong>Dathlu Gwyl Ddewi<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Cynhaliodd y c\u00f4r noson lwyddiannus yn Nhy Tawe, 1 Mawrth, 2023, gan ddathlu&#8217;r wyl yn deilwng.  Canodd y c\u00f4r nifer o eitemau, a chafodd y gynulleidfa dda hwyl yn canu detholiad o ganeuon gwerin.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><a href=\"https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Gwyl-Ddewi-2023-scaled.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"468\" src=\"https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Gwyl-Ddewi-2023-1024x468.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-1433\" srcset=\"https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Gwyl-Ddewi-2023-1024x468.jpg 1024w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Gwyl-Ddewi-2023-300x137.jpg 300w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Gwyl-Ddewi-2023-768x351.jpg 768w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Gwyl-Ddewi-2023-1536x702.jpg 1536w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Gwyl-Ddewi-2023-2048x936.jpg 2048w, https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2023\/04\/Gwyl-Ddewi-2023-624x285.jpg 624w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Canu Plygain<\/h2>\n\n\n\n<p>Cymerodd grwp o&#8217;r c\u00f4r ran yng ngwasanaeth carolau&#8217;r Nadolig, a drefnwyd gan Gapel Gomer yng nghapel Mount Pleasant, Ffordd y Brenin.  Dafydd Mills, o staff y Fenter Iaith,  oedd yr hyfforddwr dawnus. Y digwyddiad nesaf i&#8217;r c\u00f4r oedd canu yng ngwasanaeth Plygain Eglwys Gorseinon, pan ddaeth rhyw bymtheg o bartion i fwynhau&#8217;r achlysur, y tro cynta i hyn gael ei gynnal yng Ngorseinon.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><a href=\"https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/Cor-Mt-Pleasant.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"750\" height=\"429\" src=\"https:\/\/cortytawe.org\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/Cor-Mt-Pleasant.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-1355\"\/><\/a><figcaption class=\"wp-element-caption\">Grwp o G\u00f4r Ty Tawe yn canu yng ngwasanaeth Capel Gomer cyn y Nadolig, 2022<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p><\/p>\n\n\n\n<p><\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><\/h2>\n\n\n\n<p><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae&#8217;r c\u00f4r yn cwrdd am 7 bob nos Lun, yn ystod tymhorau ysgol, yn Nhy Tawe, 9 Stryd Christina, Abertawe SA1 4EW. Cyngerdd Canol Haf Mwynhaodd y c\u00f4r groeso cynnes Cymdeithas Gymraeg Llandeilo Ferwallt ar y 15fed o Fehefin, 2026. Canodd y c\u00f4r wyth o eitemau, gan orffen gydag Eryr Pengwern, o sioe Heledd, Cwmni [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-2","page","type-page","status-publish","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/cortytawe.org\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/2","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/cortytawe.org\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/cortytawe.org\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cortytawe.org\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cortytawe.org\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Fcomments&post=2"}],"version-history":[{"count":486,"href":"https:\/\/cortytawe.org\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/2\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2578,"href":"https:\/\/cortytawe.org\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/2\/revisions\/2578"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/cortytawe.org\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Fmedia&parent=2"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}