Archif: Ionawr 2025

Y Côr yn Nhreforys, Cyngerdd cyntaf 2025

Côr Tŷ Tawe yn diddanu yn Nhreforys

Dechreuodd rhaglen 2025 Cymdeithas Gymraeg Treforys gydag adloniant gan Gôr Tŷ Tawe, o dan arweiniad Bethan Wynne Phillips. Merch a’i gwreiddiau yn Nhreforys yw hi, yn wyres i’r athronydd Dewi Z Phillips.

Canodd y côr eitemau gan John Rutter, Islwyn Ffowc Elis, Eric Jones, Karl Jenkins, trefniant Alun Guy o Y Cwm, Huw Chiswell a hanner dwsin o eitemau eraill.

Bydd y côr yn teithio i Lundain ganol Chwefror i ganu gyda Chôr y Boro, yng nghapel y Boro. Dyma daith gyntaf y côr ers i Bethan gymryd at yr awenau.

Y Côr yn Ystumllwynarth

Cyngerdd yn Ystumllwynarth

Llanwyd eglwys Ystumllwynarth nos Iau, 24 Hydref pan gynhaliwyd cyngerdd i godi arian tuag at Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2025.

Cafodd y gynulleidfa wledd yn gwrando ar gorau ysgolion Cymraeg Bryn-y-môr a Llwynderw, a hefyd Gôr y Gweilch a Chôr Tŷ Tawe. Ymunodd y corau gyda‘i gilydd ar ddiwedd y gyngerdd i ganu Hafan Gobaith.

Arweiniwyd côr Llwynderw gan Sammy Bond ac Angharad Bean, gyda Bethan Wynne Phillips yn cyfeilio. Linda Willliams oedd arweinydd côr Bryn-y-môr, a Chris Lewis ar y piano. Chris Lewis arweiniodd Gôr y Gweilch a Berian Lewis ar y piano. Bethan Wynne Phillips oedd arweinydd Cór Tŷ Tawe, a Chris Lewis yn cyfeilio.

Ymysg yr uchafbwyntiau roedd Cadwyn Disney gan Lwynderw; Adiemus Karl Jenkins gan Fryn-y-Môr; Sanctus gan Gôr y Gweilch; a’r Cwm, Huw Chiswell, gan Gôr Tŷ Tawe.

Trefnwyd y gyngerdd gan Bwyllgor De Gwyr.

Rhai o sopranos Côr Ty Tawe

Llun: y corau‘n canu Hafan Gobaith gyda Bethan Wynne Phillips yn arwain

Côr Ty Tawe yn Llys Nini

Cyngerdd yn Llys Nini

Cynhaliodd Côr Tŷ Tawe gyngerdd ddymunol yn Llys Nini, nos Fercher 16 Hydref. Daeth nifer dda i’r neuadd newydd yn Llys Nini, sy’n ganolfan i’r RSPCA yn Abertawe.

Canodd y côr nifer o ganeuon cysylltiedig ag Abertawe, gan gynnwys Y Cwm a Tangnefeddwyr. Unawdydd dwy gân oedd Bill Gannon.

Llun: Bethan Wynne Phillips a’r côr