Archif: Ebrill 2011

Er Hwylio’r Haul

Er hwylio’r Haul yn llwyddiant ysgubol

“Y profiad mwyaf gwefreiddiol ges i mewn cyngerdd ers tro byd,” meddai un o’r gynulleidfa yng Nghapel y Babell, Pensarn, Caerfyrddin nos Wener, Ebrill 8.

Roedd y gynulleidfa ar eu traed ar ddiwedd noson o ganu caboledig a chynhyrfus.? Yn yr hanner cyntaf, canodd y côr ‘Yno ar Hwyrddydd Ebrill’ ac ‘Ym Mhenrhyn Gwyr’, o waith Eric Jones ar eiriau Mererid Hopwood. Cafwyd eitemau hefyd gan y baritôn Eirian Davies a’r soprano Eirlys Myfanwy Davies, y ddau ymysg doniau ifanc gorau Cymru.? Y Parch Ddr. Desmond Davies oedd llywydd y noson, a rhoddodd anerchiad byr ar waith Uned y Galon, Ysbyty Glangwili. I’r uned hon yr aeth elw’r noson.

Er Hwylio’r Haul, gwaith a gomisiynwyd adeg Eisteddfod Eryri 2005, gymerodd y cyfan o’r ail hanner.? Robat Arwyn yw cyfansoddwr y gadwyn o 16 o ganeuon syn coff?u Llywelyn yr Ail, a cherdd farwnad Gruffudd ab yr Ynad Goch yn ganolog i’r darn.

Helen Gibbon arweiniodd y côr, gyda John Evans ar y piano, Christopher Davies ar yr allweddellau, Iestyn ar y drymiau a Stephan Alun yn llefarydd.