Archif: Mawrth 2017

CLWB CINIO MENYWOD CAERFYRDDIN

Y côr yn ymarfer

Y côr yn ymarfer

Cafodd Helen Gibbon wahoddiad i fynd â’i chyfeillion i ganu i Ginio Gwyl Dewi Menywod Caerfyrddin yng Ngwesty Llwyniorwg. Roedd yn anrhydedd i’r côr ei bod hi wedi cynnull parti o blith y côr i ganu yno, a chafwyd noson gofiadwy, gydag eitemau gan Helen a Heledd Evans, gyda John Evans yn cyfeilio. Canwyd detholiad o ganeuon poblogaidd y côr yn ddigopi.

Heledd a John

Heledd a John

Helen a Heledd

Helen a Heledd

CAWL A CHAN GWYL DEWI 2017

CAWL A CH?N DYDD GWYL DEWI

Dathlu Gwyl Dewi

Dathlu Gwyl Dewi

Roedd neuadd Ty Tawe’n llawn ar gyfer y noson Cawl a Ch?n flynyddol.? Roedd 6 sosbaned o gawl yn ffrwtian, a llwyth o bice a danteithion eraill i’w mwynhau.? Canodd y côr saith o eitemau, a Helen yn canu unawd a ch?n gyda’r parti merched. Cyfeiliodd John yn ddeheuig yn ôl ei arfer. Roedd cyfle i’r gynulleidfa ymuno mewn chwech o ganeuon.? Noson braf o ddathlu ein Cymreictod.