Archif: Tachwedd 2012

Taith Llundain

Côr Ty Tawe yng Nghanolfan Cymry Llundain

Cafodd y côr daith lwyddiannus iawn i Lundain ddechrau mis Tachwedd 2012. Cynhaliwyd cyngerdd yng Nghanolfan Cymry Llundain, sy’n cael ei reoli gan gyn-aelod o’r côr, Rhian Jones. Roedd llond neuadd yno i wrando ar y côr yn canu deg o ganeuon, gydag eitemau hefyd gan yr arweinydd, Helen Gibbon.

Y Côr yn canu

Ar ôl y gyngerdd cafwyd noson gymdeithasol yn y Ganolfan. Diolch i Rhian am y trefniadau.

Llwyddodd nifer o’r côr i weld dau Gymro’n perfformio yn theatrau’r West End: Owain Arthur a Rob Brydon.