Mae Geraint James, un o faswyr y côr, yn teithio Cymru, wrth i’w fand, Ffenestri, atgyfodi. Canodd y band mewn cyngerdd yn Nhy Tawe 30 mlynedd yn ôl, a daeth y band i Dy Tawe ar ddiwedd wythnos y dathlu, Hydref 21.
Archif: Hydref 2017
MEDI A HYDREF 2017
CYNGERDD DATHLU TY TAWE
Cafodd y côr sylw mawr ar Raglen Heno pan gymerodd ran yn noson gyntaf dathlu Ty Tawe’n 30 oed. Nos Fercher, Hydref 11 oedd hyn. Mwynhaodd pawb naw o eitemau gan y côr a’r canu i bawb. Dyma noson olaf Helen Gibbon cyn iddi deithio i Batagonia, lle y bydd yn arwain cymanfa ac yn beirniadu mewn eisteddfod yn y Wladfa. Edrychwn ymlaen at ei chael yn ailafael, ond yn y cyfamser mae John Evans yn arwain ac yn cyfeilio’n ddeheuig.
CAPEL Y WERN
Nos Sul, Medi 24, cymerodd y côr ran mewn Cymanfa Ganu yng Nghapel y Wern, Ystalyfera, gyda Helen Gibbon yn arwain y Gymanfa a’r Côr. Ymunodd y côr i ganu Benedictus, o waith Robat Arwyn, gyda Chôr Dathlu Cwm Tawe.