Cafodd y côr gyfle i gymryd rhan mewn noson i ddiolch i’r Canon John Walters wrth iddo ymddeol.? Cynhaliwyd y noson yn yr Institiwt Pontarddulais gan Gyngor y Bont, nos Iau, Ebrill 29. 2015.
Kevin Johns oedd yn arwain y noson a chafwyd anerchiadau gan Eric Jones, ar ran capeli Pontarddulais, y Tad John Thomas ar ran y Gymuned Gatholig a Norman Lewis ar ran eglwysi Apostolig y cylch.
Gwnaed cyflwyniad i John Walters gan y Cynghorydd Kevin Griffiths, Maer Cyngor Tref Pontarddulais.