Archif: Tachwedd 2015

CANU YN YR ARDD

Helen a'r sopranos

Helen yn hapus

Cafodd y côr dipyn o hwyl fore Sadwrn, Tachwedd 14, yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol yn Llanarthne. Canodd y côr am awr a hanner dan do cromen yn y ty gwydr. Er bod y gwynt yn arw a’r glaw’n arllwys y tu allan, cafodd y côr groeso brwd gan stondinwyr yr ?yl anrhegion a’r gwrandawyr ger byrddau’r caffe.

John yn yr ardd

John yn cyfeilio

sopranos ac ati

rhai o’r merched

baswyr a thenoriaid

rhai o’r dynion

ELID YN MYND I GAERDYDD

Bydd colled fawr ar ôl Elid Morris, sydd wedi symud i Gaerdydd i ddilyn swydd a chalon. Bu Elid yn aelod o’r côr ers 20 mlynedd, a bu ganddi sawl swydd yn y côr. Bydd yr altos yn gweld ei heisiau’n fawr. Cawn ei hanes gan Emyr ac Eleri.

IMG_1516

CYNGERDD Y BONT

CYNGERDD YM MHONTARDDULAIS

Ddiwedd Medi cynhaliodd y côr gyngerdd i Ferched y Wawr, Pontarddulais yn Stiwt y Bont. Canodd y côr ddetholiad o’i raglen o ganeuon Cymraeg.? Cymerodd deunaw aelod o’r côr ran yng nghyngerdd dathlu 50 mlwyddiant Côr Waunawrlwydd, yn y Tabernacl, Treforys ar y 7fed o Dachwedd.

Bydd cyngerdd nesaf yn côr yn yr Ardd Fotaneg fore Sadwrn, Tachwedd 14.

IMG_1515