Archif: Hydref 2011

Taith wych i’r Eidal

Taith wych i’r Eidal

Mae Côr Ty Tawe wedi dychwelyd ar ôl taith gofiadwy i’r Eidal diwedd Hydref 2011.? Arhosodd y côr yn nhref Rovigo, lle roedd Carwyn James yn hyfforddwr rygbi.? Cafwyd teithiau i Fenis, Padova, Ferrara a Bologna.? Canodd y côr dair gwaith.? Yn yr offeren yn Rovigo, gyda 300 yn bresennol yn y Rodonda, canwyd pedair o ganeuon offeren o Er Hwylio’r Haul, gan Robat Arwyn.

?
Cynhaliwyd cyngherddau yn Rovigo, un gyda Chôr Meibion Monte Pasubio.? Yn y cyngherddau hyn canwyd amrywiaeth o ganeuon, gan gynnwys Tangnefeddwyr (Eric Jones), Yr Utgorn a G?n, Caneuon Gosbel a Bryn Calfaria.? Roedd Helen Gibbon, yr arweinydd, hefyd yn unwawdydd, a chafwyd eitemau ar yr obo gan Fiona Gannon.? John Evans oedd yn cyfeilio.
?
Cafwyd croeso gwresog gan Gôr Monte Pasubio, a hefyd gan gyngor Boara Pasini, a gwleddoedd yn dilyn y cyngherddau.
?

Er Hwylio’r Haul yng Nghlydach

Er hwylio’r Haul yn llwyddiant

Cafwyd noson wych iawn yng Nghapel y Nant, Clydach, nos Wener Hydref 14.? Am yr ail dro, cyflwynodd y côr y gadwyn o ganeuon ar Llywelyn, Er Hwylio’r Haul, gan Robat Arwyn. Cafwyd etiemau eraill gan y côr, gan gynnwys Yr Utgorn a G?n. Yr unawdwyr oedd Eirian Davies ac Eirlys Myfanwy Davies.
Cyfeiliwyd gan John Evans (piano) a Conway Morgan (synth) a Helen Gibbon oedd yn arwain.? Yr adroddwraig oedd Catrin Rowlands.