Cyngerdd Nadolig
- Clive yn paratoi gwin
- Linda’n canu unawd
- Siarad brwd o gwmpas y bwrdd
Roedd nos Fercher, Rhagfyr 11 yn Nhy Tawe yn noson hyfryd.? Diolch i’r nifer dda o rai sy’n dysgu’r Gymraeg, roedd neuadd Ty Tawe’n llawn.? Canodd y côr, o dan arweiniad Helen, wyth o ganeuon y Nadolig, canodd Linda a Catrin Alun unawdau, ac adroddodd Guto, Catrin Rowlands, Janet a Helen Evans gerddi’r Nadolig.? Roedd gwledd o fwyd, diolch i aelodau’r côr, a diolch i Jenny a Clive ac eraill, roedd gwobrau raffl arbennig.? Roedd gwin cynnes i bawb, diolch eto i Clive.? John unwaith eto oedd yn cyfeilio.