Archif: Rhagfyr 2012

Gwledd y Nadolig

Daeth hanner cant i Dy Tawe i fwynhau gwledd o ddanteithion y Nadolig gyda’r côr, nos Fercher 12 Rhagfyr. Roedd gwin y gaeaf yn llifo, diolch i Clive, a gwledd ar y byrddau, diolch i aelodau’r côr, wedi’i threfnu gan Marian. Gyda Helen wrth y llyw a John yn cyfeilio, canodd y côr saith o garolau a chaneuon, a chydganodd pawb nifer o garolau eraill. Noson i’w chofio.? Mae’r côr yn gobeithio canu yn y plygain ym Mhen-y-graig nos Wener, Ionawr 18.