Author Archives: Heini

Côr Tŷ Tawe’n dathlu diwedd tymor

Bethan yn cael ei hanrhegu

Cafodd Côr Tŷ Tawe noson braf o haf i ddathlu diwedd y flwyddyn. Cynhaiwyd y noson ganol Gorffennaf 2025 yn nhŷ Clem, un o’r altos.

Yn ysod y noson anrhegwyd Bethan Wynne Phillips sy’n ymadael â’r côr ar ôl treulio dwy flynedd lwyddiannus yn arwain ac yn cyfeilio.

Mae croeso i aelodau newydd ddod 8 Medi pan fydd y côr yn ailgychwyn gydag arweinydd a chyfeilydd newydd.

Noson gymdeithasol

Côr Ty Tawe yn Ystumllwynarth

Fore Sadwrn y 12fed o Orffennaf 2025 canodd Côr Ty Tawe am y tro olaf o dan arweiniad Bethan Wynne Phillips.

Ar ôl dwy flynedd lwyddiannus iawn gyda’r côr, mae Bethan yn symud ymlaen i ddatblygu ei gyrfa fel therapydd cerdd.

Canodd y côr ddetholiad o ganeuon Cymraeg i gynulleidfa werthfawrogol yn neuadd Eglwys Ystumllwynarth.

Bydd y côr yn gweld ei heisiau’n fawr gan iddi fod yn arweinydd a chyfeilydd. Yn ystod ei chyfnod gyda’r côr cynyddodd yr aelodaeth, a chynhaliwyd nifer dda o gyngherddau gan gynnwys cyngerdd yng Nghapel y Boro, Llundain.

Bydd y côr yn ailgychwyn 8 Medi gydag arweinydd a chyfeilydd newydd- manylion cyffrous i ddo

Taith i Lundain

Cafodd y côr daith lwyddiannus i Lundain ym mis Chwefror, 2025. Gwahoddwyd y côr i ganu yng Nghapel y Boro, Southwark, gan rannu cyngerdd gyda Chôr y Boro. Roedd yn brofiad arbennig. Canodd y côr nifer o eitemau, gan gynnwys tair eitem ar y cyd â Chôr y Boro, gan orffen gyda datganiad o’r Tangnefeddwyd, trefniant Eric Jones, a Hafan Gobaith. Roedd gwledd helaeth i bawb wedi’i pharatoi ar ôl y gyngerdd.

Canu yn nathliadau Gwyl Ddewi Aberawe

Cafodd y côr gyfle i ganu ddwywaith yn nathliadau ‘Croeso’ Gwyl Ddewi Abertawe, 2025, y tro cyntaf yn y llwyfan agored ger y bont newydd, ac yn ail, yn y farchnad. Bu tipyn o hwyl ar y canu. Mae’r côr yn awr yn edrych ymlaen at ganu yn Ystumllwynarth ac yn Llandeiloferwallt yr haf yma.

Canu yn Llandeiloferwallt

Canu yn Llandeiloferwallt
Canu yn Llandeiloferwallt

Cafodd y côr, dan arweiniad Bethan Wynne Phillips, groeso mawr gan yr Athro Prys Morgan yng nghyfarfod Cymdeithas Gymraeg Llandeiloferwallt nos Lun, 16 Mehefin. Canon nhw’r eitemau hyn:

Fflabalam = traddodiadol – trefniant W Tudor Jones; Popeth hardd sydd yn y byd – John Rutter; Y cyfan sydd gen i i’w roi – Robin Llwyd ab Owain, Robat Arwyn; Dashenka – Islwyn Ffowc Elis; Y Cwm = Huw Chiswell, trefniant Alun Guy; Ar lan y môr – traddodiadol, trefniant Alan Llewelyn Thomas; Hafan Gobaith – Eleri Richards, Delyth Rees; Y Tangnefeddwyr – Waldo Williams, Eric Jones; Cyfrinach y Gân – Glenys Roberts, Eric Jones. Darllenodd Catrin Alun gerdd Etifeddiaeth, Gerallt Lloyd Owen.

Roedd gwledd ar ôl y gyngerdd, a phawb yn mwynhau noson hirddydd haf.

Y Côr yn Nhreforys, Cyngerdd cyntaf 2025

Côr Tŷ Tawe yn diddanu yn Nhreforys

Dechreuodd rhaglen 2025 Cymdeithas Gymraeg Treforys gydag adloniant gan Gôr Tŷ Tawe, o dan arweiniad Bethan Wynne Phillips. Merch a’i gwreiddiau yn Nhreforys yw hi, yn wyres i’r athronydd Dewi Z Phillips.

Canodd y côr eitemau gan John Rutter, Islwyn Ffowc Elis, Eric Jones, Karl Jenkins, trefniant Alun Guy o Y Cwm, Huw Chiswell a hanner dwsin o eitemau eraill.

Bydd y côr yn teithio i Lundain ganol Chwefror i ganu gyda Chôr y Boro, yng nghapel y Boro. Dyma daith gyntaf y côr ers i Bethan gymryd at yr awenau.

Y Côr yn Ystumllwynarth

Cyngerdd yn Ystumllwynarth

Llanwyd eglwys Ystumllwynarth nos Iau, 24 Hydref pan gynhaliwyd cyngerdd i godi arian tuag at Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2025.

Cafodd y gynulleidfa wledd yn gwrando ar gorau ysgolion Cymraeg Bryn-y-môr a Llwynderw, a hefyd Gôr y Gweilch a Chôr Tŷ Tawe. Ymunodd y corau gyda‘i gilydd ar ddiwedd y gyngerdd i ganu Hafan Gobaith.

Arweiniwyd côr Llwynderw gan Sammy Bond ac Angharad Bean, gyda Bethan Wynne Phillips yn cyfeilio. Linda Willliams oedd arweinydd côr Bryn-y-môr, a Chris Lewis ar y piano. Chris Lewis arweiniodd Gôr y Gweilch a Berian Lewis ar y piano. Bethan Wynne Phillips oedd arweinydd Cór Tŷ Tawe, a Chris Lewis yn cyfeilio.

Ymysg yr uchafbwyntiau roedd Cadwyn Disney gan Lwynderw; Adiemus Karl Jenkins gan Fryn-y-Môr; Sanctus gan Gôr y Gweilch; a’r Cwm, Huw Chiswell, gan Gôr Tŷ Tawe.

Trefnwyd y gyngerdd gan Bwyllgor De Gwyr.

Rhai o sopranos Côr Ty Tawe

Llun: y corau‘n canu Hafan Gobaith gyda Bethan Wynne Phillips yn arwain

Côr Ty Tawe yn Llys Nini

Cyngerdd yn Llys Nini

Cynhaliodd Côr Tŷ Tawe gyngerdd ddymunol yn Llys Nini, nos Fercher 16 Hydref. Daeth nifer dda i’r neuadd newydd yn Llys Nini, sy’n ganolfan i’r RSPCA yn Abertawe.

Canodd y côr nifer o ganeuon cysylltiedig ag Abertawe, gan gynnwys Y Cwm a Tangnefeddwyr. Unawdydd dwy gân oedd Bill Gannon.

Llun: Bethan Wynne Phillips a’r côr

Dathlu Gwyl Ddewi

Cynhaliodd y côr noson lwyddiannus yn Nhy Tawe, 1 Mawrth, 2023, gan ddathlu’r wyl yn deilwng. Canodd y côr nifer o eitemau, a chafodd y gynulleidfa dda hwyl yn canu detholiad o ganeuon gwerin.

Marw Henry Dare

Trist iawn yw cofnodi marwolaeth Henry Dare, un o’n haelodau brwd a ffyddlon. Bu’n aelod ers nifer o flynyddoedd. Daeth i Abertawe o Lundain, ac roedd wrth ei fodd yn dysgu’r Gymraeg a dod yn rhan o gymdeithas Gymraeg y ddinas. Yn ffermdy Killay Fawr roedd ganddo berllan, a byddai gwin afalau Harry’n cael ei fwynhau ar wahanol achlysuron. Y tro olaf iddo ganu gyda’r côr oedd yn nathliad Gwyl Ddewi eleni. Roedd yn hoff o gymdeithasu cyn ac ar ôl y côr a bydd aelodau’r côr yn ei golli’n fawr.