Gohirio ymarferion
18 Mawrth, 2020: Yn sgil y firws Corona, mae ymarferion wedi’u gohirio am y tro. Rhown wybod pryd byddan nhw’n ailgychwyn.
Canu yn sgwâr y castell
Mwynhaodd y côr yn Sgwâr y Castell ddydd Sadwrn, 29 Chwefror, ar lwyfan dathlu Gwyl Ddewi’r Cyngor.
Dathlu’r 30
Mae Côr Ty Tawe’n dathlu ei 30 mlwyddiant eleni. Mae cynlluniau ar y gweill i gynnal cinio dathlu a chyngerdd dathlu. Bydd croeso i gyn aelodau i ymuno. Mae Helen Gibbon wedi arwain y côr o’r cychwyn. Wrth i aelodau’r côr symud i wahanol rannau o Gymru, bu tipyn o newid yn aelodaeth y côr. Eleni croesawyd sawl aelod newydd, ac edrychwn ymlaen at flwyddyn lewyrchus arall.
Colli Eleri
Llun: Eleri gydag Elgar ac Elid ym mhriodas Llinos, rai blynyddoedd yn ôl.
Tristwch mawr eleni oedd colli un o aelodau mwyaf pybyr y côr. Bu farw Eleri Morris ar y 15fed o Ionawr, ar ôl cyfnod o salwch. Bu’n garedig a hael wrth yr holl aelodau, ac roedd wrth ei bodd yn canu yng nghyngherddau’r côr ac ar y teithiau. Bydd bwlch mawr ar ei hôl. Cydymdeimlwn ag Emyr, sy’n dal yn aelod o’r côr, ac Elid a’u teulu.
Canu Plygain
Yn ôl ei arfer blynyddol, manteisiodd y côr ar y cyfle i ganu yng ngwasanaeth Plygain eglwys Llanddarog, nos Sul, 12 Ionawr, 2020. Darparodd Janet wledd, ac roedd hyn yn sail ardderchog i ganu’r côr.
Cinio Nadolig
Dathlodd aelodau’r côr y Nadolig trwy gael cinio yng ngoruwchystafell bwyty Verve, yn yr Uplands, Abertawe, nos Wener, 13 Rhagfyr.
Cyngherddau’r Nadolig
Bu’r côr yn weithgar yng nghyfnod y Nadolig, 2019. Canodd y côr ddwywaith yn ystod dathliadau Nadolig Ty Tawe, gyda phlant Ysgol Gymraeg Bryn-y-môr hefyd yn diddanu. Roedd Ffair Nadolig y Fenter nos Wener, Tachwedd 22, a chyngerdd Nadolig nos Wener, Rhagfyr 20. Roedd neuadd lawn y ddwy noson.
Canodd y côr hefyd yng nghapel Mount Pleasant, yng ngwasanaeth Nadolig Capel Gomer, nos Fercher, 18 Rhagfyr. Roedd dau gant yno i fwynhau’r gwasanaeth Cymraeg, a chafwyd gwledd yn dilyn y gwasanaeth, diolch i aelodau’r capel. Mae Capel Gomer yn cwrdd yn Nhy Tawe bob prynhawn Sul.
Cyngherddau’r Croeshoeliad
Bu’r côr yn canu’r Croeshoeliad, gan John Stainer, gyda Chôr Seingar, yng Nghaerfyddin nos Sul, Mawrth 24, 2019 ac eto yng Nghapel y Nant, Clydach, nos Sul, y 7fed o Ebrill.
Yn hanner cyntaf y gyngerdd, canodd y corau, dan arweiniad Nicki Roderick, eitemau gan Carly Simon (Cod i ddeffro Gwalia Wen), a Rhys Jones (O Gymru), a chafwyd eitemau unigol a deuawdau gan Helen Gibbon, Gwyn Morris ac Efan Williams. Y ddau olaf oedd unawdwyr y Croeshoeliad, a Helen yn arwain.
Yng Nghaerfyrddin Meirion Wynn Jones oedd yr organydd, a Fiona Gannon oedd wrth yr organ yn Nghlydach.
Codwyd £1000 i Lyfrau Llafar Cymru, a £300 i Gronfa Madagasgar.
Cyngerdd Heol Awst, Caerfyrddin
Cafodd y côr groeso mawr yn Heol Awst, Caerfyrddin, nos Fercher, 13 Mawrth 2019, pan gyflwynon nhw noson o gân a cherdd i ddwy gangen o Ferched y Wawr yn eu dathliad Gwyl Ddewi. Cyflwynwyd y noson yn ddeheuig gan David Williams. Canwyd caneuon o eiddo Eric Jones, Ryan Davies, Linda Gittins ac eraill. Canodd Helen Hwiangerdd Afon Tywi o waith Mererid Hopwood ac Eric Jones, a chafwyd adroddiadau gan Janet Thomas, Guto ap Gwent, Linda Williams a Catrin Alun. Bu’r croeso’n frwd a’r danteithion yn helaeth.
RY’N NI’N EDRYCH MLAEN AT GLYWED ‘DA CHI.
Mae’r côr yn cwrdd bob nos Fercher yn Nhy Tawe am 7, Croeso i gantorion newydd. Dewch ar y noson neu ffoniwch Helen : 01267 290518.
in