Archif: Ionawr 2014

Plygeiniau

Cymerodd rhai o gantorion y côr ran mewn dau wasanaeth Plygain, y naill yn Nantgaredig ddiwedd Rhagfyr a’r llall yn Llanddarog ganol Ionawr.? Cawson nhw hwyl arni, a hefyd eu gwala o fwyd ar ôl y canu.? Diolch i gynorthwywyr y capel yn Nantgaredig a’r eglwys yn Llanddarog am y lluniaeth, y te a’r gwin cynnes. Canodd y côr amrywiaeth o garolau Plygain, gan gynnwys rhai ?’u geiriau cywrain gan Maurice Loader.