Category Archives: Newyddion

Cyngerdd Canol Haf 2026

Mwynhaodd y côr groeso cynnes Cymdeithas Gymraeg Llandeilo Ferwallt ar y 15fed o Fehefin, 2026. Canodd y côr wyth o eitemau, gan orffen gydag Eryr Pengwern, o sioe Heledd, Cwmni Theatr Maldwyn, a’r Tangnefeddwyr, gosodad Eric Jones o gerdd Waldo Williams. Canodd Linda Williams Diwn Sol-ffa, a rhoddodd Catrin Alun ddatganiad o Colli Iaith. Canodd Rex Beynon Bugeilio’r Gwenith Gwyn a chanodd Llywelyn Gannon ddwy eitem ar yr ewffoniwm. Yr u

NOSON GAROLAU, 15 Rhagfyr 2025

Uchafbwynt y noson garolau oedd datganiad y côr o bump o garolau gan Daniel Protheroe, wedi eu trefnu gan Edward-Rhys Harry. Ymysg eitemau eraill gan y côr roedd Rhown Foliant o’r Mwyaf gan Rhys Pritchard, ar alaw W.S.Gwynn Williams, ac Awn i Fethlem, eto gan Rhys Pritchard, ar alaw Gymreig. Canodd Catrin a Linda Suai’r gwynt, a chanodd Bill y Tri Brenin, cyfieithiad Fiona o garol Peter Cornelius. Canodd Fiona ddwy eitem ar y piano, yn drefniannau o Ganol Gaeaf Noethlwm a Dawel Nos. Adroddodd Carey Thomas y gerdd Neithiwr gan Crwys ac adroddwyd Ar Noson fel Heno gan T. Llew Jones gan Helen Evans. Canodd y côr hefyd yng ngwasanaeth carolau Cymraeg eglwys Sant Iago, yr Uplands, ganol Rhagfyr.

Cyngerdd Gwyl Ddewi 2 Mawrth 2026

Ar yr 2il o Fawrth cafwyd noson hwyliog yn Nhy Tawe. Canoff y côr wyth o ganeuon, gan gynnwys Yr Utgorn o waith Pedr Fardd, ar alaw gan W. Matthews Williams, Salm 23 gan Euros Rhys Evans, Ar lan y môr wedi ei threfnu gan Alan Ll. Thomas. Canodd Llywelyn Gannon y gân fywiog, Cloc Tad-cu ar offeryn chwyth. Adroddodd Catrin Alun y gerdd Dewi Sant gan Robat Powel, a chanodd Bill Gannon Tra bo dau. Adroddodd Linda Williams y gerdd ddoniol a phigog, Over the Llestri gan gan Aled Lewis Evans. Gorffennodd y côr gyda Y Cwm gan Huw Chiswell a Tangnefeddwyr ar gerddoriaeth Eric Jones.

Edward-Rhys Harry yn Ymuno fel Arweinydd 

Mae Côr Ty Tawe yn hynod falch o gyhoeddi penodiad Dr Edward-Rhys Harry fel Arweinydd y Côr o fis Medi 2025.

Yn wreiddiol o Benclawdd, mae Dr Harry yn arweinydd corawl a chyfansoddwr o fri rhyngwladol, sy’n parhau i fod yn agos at ei wreiddiau ym Mhenrhyn Gwŷr. Mae’n angerddol am gerddoriaeth Gymraeg a’r pŵer sydd gan gerddoriaeth i gryfhau cymunedau a Chymreictod yn Abertawe a’r cylch.

Dr Harry oedd y Cymro cyntaf i raddio mewn Arwain Corawl yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru, ac yn 2022 enillodd Dlws y Cerddor yn Eisteddfod Genedlaethol Tregaron am ei opera siambr Gymraeg ‘Yr Islawr’.

Mae Dr Harry hefyd yn Rheolwr Datblygu a Llesiant Cerddorol i Military Wives Choirs, ac yn Gyfansoddwr Preswyl i Music for Life. Mae’n dod â chefndir cerddorol amrywiol sydd wedi ymestyn i neuaddau cyngerdd, tai opera, eglwysi cadeiriol a sianeli radio ledled y byd.

Bydd y Côr yn ail-ddechrau ar nos Lun Medi 8 am 7 o’r gloch. Mae’r Côr yn croesawu aelodau newydd, ac mae’n agored i siaradwyr a dysgwyr Cymraeg ar bob lefel sy’n chwilio am brofiad cerddorol cwbl Gymraeg.

Bydd penodiad Dr Harry yn nodi cyfnod newydd ac ysbrydoledig i Gôr Ty Tawe, gan gynnig cyfleoedd cerddorol newydd i aelodau’r Côr ac i’r gymuned ehangach.

Fiona Gannon yn gyfeilydd

Bydd Côr Ty Tawe hefyd yn ennill cyfeilydd newydd, Fiona Gannon. Cyfieithydd yw Fiona wrth ei gwaith. Bu’n ddarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe, Hi yw arweinydd Capel y Nant, Clydach, ac mae’n rhedeg siop O law i law yng Nghlydach, sy’n codi arian i Ty Croeso, Clydach. Mae ganddi brofiad helaeth o ganu’r piano a’r organ a nifer o offerynnau eraill. Bu’n unawdydd ar yr organ yn nifer o gyngherddau Côr Ty Tawe yng Nghymru ac ar y cyfandir a chynhaliodd gyngherddau organ yn Neuadd Brangwyn, Abertawe..

Côr Tŷ Tawe’n dathlu diwedd tymor

Bethan yn cael ei hanrhegu

Cafodd Côr Tŷ Tawe noson braf o haf i ddathlu diwedd y flwyddyn. Cynhaiwyd y noson ganol Gorffennaf 2025 yn nhŷ Clem, un o’r altos.

Yn ysod y noson anrhegwyd Bethan Wynne Phillips sy’n ymadael â’r côr ar ôl treulio dwy flynedd lwyddiannus yn arwain ac yn cyfeilio.

Mae croeso i aelodau newydd ddod 8 Medi pan fydd y côr yn ailgychwyn gydag arweinydd a chyfeilydd newydd.

Noson gymdeithasol

Côr Ty Tawe yn Ystumllwynarth

Fore Sadwrn y 12fed o Orffennaf 2025 canodd Côr Ty Tawe am y tro olaf o dan arweiniad Bethan Wynne Phillips.

Ar ôl dwy flynedd lwyddiannus iawn gyda’r côr, mae Bethan yn symud ymlaen i ddatblygu ei gyrfa fel therapydd cerdd.

Canodd y côr ddetholiad o ganeuon Cymraeg i gynulleidfa werthfawrogol yn neuadd Eglwys Ystumllwynarth.

Bydd y côr yn gweld ei heisiau’n fawr gan iddi fod yn arweinydd a chyfeilydd. Yn ystod ei chyfnod gyda’r côr cynyddodd yr aelodaeth, a chynhaliwyd nifer dda o gyngherddau gan gynnwys cyngerdd yng Nghapel y Boro, Llundain.

Bydd y côr yn ailgychwyn 8 Medi gydag arweinydd a chyfeilydd newydd- manylion cyffrous i ddo

Taith i Lundain

Cafodd y côr daith lwyddiannus i Lundain ym mis Chwefror, 2025. Gwahoddwyd y côr i ganu yng Nghapel y Boro, Southwark, gan rannu cyngerdd gyda Chôr y Boro. Roedd yn brofiad arbennig. Canodd y côr nifer o eitemau, gan gynnwys tair eitem ar y cyd â Chôr y Boro, gan orffen gyda datganiad o’r Tangnefeddwyd, trefniant Eric Jones, a Hafan Gobaith. Roedd gwledd helaeth i bawb wedi’i pharatoi ar ôl y gyngerdd.

Canu yn nathliadau Gwyl Ddewi Aberawe

Cafodd y côr gyfle i ganu ddwywaith yn nathliadau ‘Croeso’ Gwyl Ddewi Abertawe, 2025, y tro cyntaf yn y llwyfan agored ger y bont newydd, ac yn ail, yn y farchnad. Bu tipyn o hwyl ar y canu. Mae’r côr yn awr yn edrych ymlaen at ganu yn Ystumllwynarth ac yn Llandeiloferwallt yr haf yma.

Canu yn Llandeiloferwallt

Canu yn Llandeiloferwallt
Canu yn Llandeiloferwallt

Cafodd y côr, dan arweiniad Bethan Wynne Phillips, groeso mawr gan yr Athro Prys Morgan yng nghyfarfod Cymdeithas Gymraeg Llandeiloferwallt nos Lun, 16 Mehefin. Canon nhw’r eitemau hyn:

Fflabalam = traddodiadol – trefniant W Tudor Jones; Popeth hardd sydd yn y byd – John Rutter; Y cyfan sydd gen i i’w roi – Robin Llwyd ab Owain, Robat Arwyn; Dashenka – Islwyn Ffowc Elis; Y Cwm = Huw Chiswell, trefniant Alun Guy; Ar lan y môr – traddodiadol, trefniant Alan Llewelyn Thomas; Hafan Gobaith – Eleri Richards, Delyth Rees; Y Tangnefeddwyr – Waldo Williams, Eric Jones; Cyfrinach y Gân – Glenys Roberts, Eric Jones. Darllenodd Catrin Alun gerdd Etifeddiaeth, Gerallt Lloyd Owen.

Roedd gwledd ar ôl y gyngerdd, a phawb yn mwynhau noson hirddydd haf.