Archif: Mehefin 2025

Taith i Lundain

Cafodd y côr daith lwyddiannus i Lundain ym mis Chwefror, 2025. Gwahoddwyd y côr i ganu yng Nghapel y Boro, Southwark, gan rannu cyngerdd gyda Chôr y Boro. Roedd yn brofiad arbennig. Canodd y côr nifer o eitemau, gan gynnwys tair eitem ar y cyd â Chôr y Boro, gan orffen gyda datganiad o’r Tangnefeddwyd, trefniant Eric Jones, a Hafan Gobaith. Roedd gwledd helaeth i bawb wedi’i pharatoi ar ôl y gyngerdd.

Canu yn nathliadau Gwyl Ddewi Aberawe

Cafodd y côr gyfle i ganu ddwywaith yn nathliadau ‘Croeso’ Gwyl Ddewi Abertawe, 2025, y tro cyntaf yn y llwyfan agored ger y bont newydd, ac yn ail, yn y farchnad. Bu tipyn o hwyl ar y canu. Mae’r côr yn awr yn edrych ymlaen at ganu yn Ystumllwynarth ac yn Llandeiloferwallt yr haf yma.

Canu yn Llandeiloferwallt

Canu yn Llandeiloferwallt
Canu yn Llandeiloferwallt

Cafodd y côr, dan arweiniad Bethan Wynne Phillips, groeso mawr gan yr Athro Prys Morgan yng nghyfarfod Cymdeithas Gymraeg Llandeiloferwallt nos Lun, 16 Mehefin. Canon nhw’r eitemau hyn:

Fflabalam = traddodiadol – trefniant W Tudor Jones; Popeth hardd sydd yn y byd – John Rutter; Y cyfan sydd gen i i’w roi – Robin Llwyd ab Owain, Robat Arwyn; Dashenka – Islwyn Ffowc Elis; Y Cwm = Huw Chiswell, trefniant Alun Guy; Ar lan y môr – traddodiadol, trefniant Alan Llewelyn Thomas; Hafan Gobaith – Eleri Richards, Delyth Rees; Y Tangnefeddwyr – Waldo Williams, Eric Jones; Cyfrinach y Gân – Glenys Roberts, Eric Jones. Darllenodd Catrin Alun gerdd Etifeddiaeth, Gerallt Lloyd Owen.

Roedd gwledd ar ôl y gyngerdd, a phawb yn mwynhau noson hirddydd haf.