Archif: Awst 2025

Edward-Rhys Harry yn Ymuno fel Arweinydd 

Mae Côr Ty Tawe yn hynod falch o gyhoeddi penodiad Dr Edward-Rhys Harry fel Arweinydd y Côr o fis Medi 2025.

Yn wreiddiol o Benclawdd, mae Dr Harry yn arweinydd corawl a chyfansoddwr o fri rhyngwladol, sy’n parhau i fod yn agos at ei wreiddiau ym Mhenrhyn Gwŷr. Mae’n angerddol am gerddoriaeth Gymraeg a’r pŵer sydd gan gerddoriaeth i gryfhau cymunedau a Chymreictod yn Abertawe a’r cylch.

Dr Harry oedd y Cymro cyntaf i raddio mewn Arwain Corawl yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru, ac yn 2022 enillodd Dlws y Cerddor yn Eisteddfod Genedlaethol Tregaron am ei opera siambr Gymraeg ‘Yr Islawr’.

Mae Dr Harry hefyd yn Rheolwr Datblygu a Llesiant Cerddorol i Military Wives Choirs, ac yn Gyfansoddwr Preswyl i Music for Life. Mae’n dod â chefndir cerddorol amrywiol sydd wedi ymestyn i neuaddau cyngerdd, tai opera, eglwysi cadeiriol a sianeli radio ledled y byd.

Bydd y Côr yn ail-ddechrau ar nos Lun Medi 8 am 7 o’r gloch. Mae’r Côr yn croesawu aelodau newydd, ac mae’n agored i siaradwyr a dysgwyr Cymraeg ar bob lefel sy’n chwilio am brofiad cerddorol cwbl Gymraeg.

Bydd penodiad Dr Harry yn nodi cyfnod newydd ac ysbrydoledig i Gôr Ty Tawe, gan gynnig cyfleoedd cerddorol newydd i aelodau’r Côr ac i’r gymuned ehangach.

Fiona Gannon yn gyfeilydd

Bydd Côr Ty Tawe hefyd yn ennill cyfeilydd newydd, Fiona Gannon. Cyfieithydd yw Fiona wrth ei gwaith. Bu’n ddarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe, Hi yw arweinydd Capel y Nant, Clydach, ac mae’n rhedeg siop O law i law yng Nghlydach, sy’n codi arian i Ty Croeso, Clydach. Mae ganddi brofiad helaeth o ganu’r piano a’r organ a nifer o offerynnau eraill. Bu’n unawdydd ar yr organ yn nifer o gyngherddau Côr Ty Tawe yng Nghymru ac ar y cyfandir a chynhaliodd gyngherddau organ yn Neuadd Brangwyn, Abertawe..