Nos Sadwrn, Mai 12 yn Neuadd Ysgol yr Hendy bu’r côr yn cystadlu yn yr Eisteddfod Flynyddol.? Er na chipiwyd y wobr y tro hwn, cafwyd perfformiad graenus. Ym Mhenrhyn Gwyr (Eric Jones)?ac Yr Utgorn a G?n (Joseph Parry) oedd yr eitemau a ganwyd.
Category Archives: Hanes
Cawl a Ch?n 2012
- ?
Roedd neuadd Ty Tawe’n llawn ar gyfer noson o Gawl a Ch?n yn Nhy Tawe, nos Fercher,? Chwefror 29 am 7.00. Ar ôl gwledd o fwyd, canodd y côr yn wych iawn. Cafwyd datganiad o Marged fach fy nghariad gan Guto ap Gwent, ac adroddiadau gan Nia Woods a Catrin Alun a chanodd Helen Gibbon ‘Gymru Fach’ yn wefreiddiol. Gorffennwyd y noson gyda chanu hwyliog dan arweiniad Helen Evans.
Cyn y Nadolig
Ty Tawe
Pontlliw
Meseia
Aeth saith o aelodau’r côr i helpu Côr y Rhyd i ganu’r Meseia yn Gymraeg cyn y Nadolig.? Eglwys San Pedr oedd y lleoliad. Roedd y perfformiad, yn ôl pob sôn, yn llwyddiant mawr.
Priodas
Cafwyd diwrnod priodas braf iawn yng Nghas-blaidd, ddydd Sadwrn, Gorffennaf 23, pan brodiodd Gareth a Delyth, dau o aelodau’r côr.
Taith wych i’r Eidal
Taith wych i’r Eidal
Mae Côr Ty Tawe wedi dychwelyd ar ôl taith gofiadwy i’r Eidal diwedd Hydref 2011.? Arhosodd y côr yn nhref Rovigo, lle roedd Carwyn James yn hyfforddwr rygbi.? Cafwyd teithiau i Fenis, Padova, Ferrara a Bologna.? Canodd y côr dair gwaith.? Yn yr offeren yn Rovigo, gyda 300 yn bresennol yn y Rodonda, canwyd pedair o ganeuon offeren o Er Hwylio’r Haul, gan Robat Arwyn.
- ?
- ?
- ?
Er Hwylio’r Haul yng Nghlydach
Er hwylio’r Haul yn llwyddiant
Er Hwylio’r Haul
Er hwylio’r Haul yn llwyddiant ysgubol
Roedd y gynulleidfa ar eu traed ar ddiwedd noson o ganu caboledig a chynhyrfus.? Yn yr hanner cyntaf, canodd y côr ‘Yno ar Hwyrddydd Ebrill’ ac ‘Ym Mhenrhyn Gwyr’, o waith Eric Jones ar eiriau Mererid Hopwood. Cafwyd eitemau hefyd gan y baritôn Eirian Davies a’r soprano Eirlys Myfanwy Davies, y ddau ymysg doniau ifanc gorau Cymru.? Y Parch Ddr. Desmond Davies oedd llywydd y noson, a rhoddodd anerchiad byr ar waith Uned y Galon, Ysbyty Glangwili. I’r uned hon yr aeth elw’r noson.
Er Hwylio’r Haul, gwaith a gomisiynwyd adeg Eisteddfod Eryri 2005, gymerodd y cyfan o’r ail hanner.? Robat Arwyn yw cyfansoddwr y gadwyn o 16 o ganeuon syn coff?u Llywelyn yr Ail, a cherdd farwnad Gruffudd ab yr Ynad Goch yn ganolog i’r darn.
Helen Gibbon arweiniodd y côr, gyda John Evans ar y piano, Christopher Davies ar yr allweddellau, Iestyn ar y drymiau a Stephan Alun yn llefarydd.
Cawl a Ch
Cawl a Ch?n
Dathlodd y côr?Gwyl Ddewi gyda noson Cawl a Ch?n.? Canodd y côr 9 o ganeuon a chafwydd datganiad gwych gan Helen, yn ôl ei harfer. Mwynhaodd y gynulleidfa niferus gawl, bara brith, caws a phice ar y m?n?. Cynhaliwyd y noson nos Sul, Chwefror 27 yn Nhy Tawe.
- ?
Hanes y Côr
Hanes y côr
Sefydlwyd Côr Tŷ Tawe yn 1990 yn gôr pedwar llais i siaradwyr Cymraeg a dysgwyr Abertawe a?r cylch. (T? Tawe yw canolfan Gymraeg Abertawe.)
Helen Gibbon, athrawes o Gapel Dewi, yw arweinydd y côr. Mae hi wedi ennill y wobr gyntaf ar ganu soprano bedair gwaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Ei chefnder, John Evans, a fu?n athro chwythbrennau, yw cyfeilydd y côr.
Mae?r côr yn canu amrywiaeth o alawon gwerin, emynau a chaneuon modern a darnau clasurol.? Cychwynnodd y côr yn gôr i bobl ifanc, ac mae’n dal i roi lle amlwg i’r aelodau iau.? Mae’r côr wedi codi arian i sawl cronfa elusennol, gan gynnwys cronfa goffa Sera Leyshon a oedd yn aelod o?r côr, a chronfa Yogi, o?r Bala.
Mae’r côr yn croesawu aelodau newydd: cysylltwch os ydych chi’n gallu canu – mae’r manylion cyswllt yn yr adran ‘Cysylltu’ > ‘Ymuno’.
Mae’r côr hefyd yn croesawu ceisiadau ar gyfer cyngherddau: mae’r manylion yn yr adran ‘Cysylltu’ > ‘Trefnu cyngerdd?’
Bu?r côr yn cynnal cyngherddau ledled de Cymru, ac enillodd y gystadleuaeth i gorau bach yng Ng?yl Ban-Geltaidd Iwerddon bedair gwaith.
Teithiau tramor
Taith i Gdansk, Gwlad Pwyl, oedd uchafbwynt 2009 i Côr Tŷ Tawe. ?Aeth 22 o gantorion ar y daith, Ebrill 14-19, a chanu yn y Brifysgol yn Gdansk a hefyd yn un o eglwysi mawr y maestrefi. ?Roedd y gwesty ger sgw?r Solidarnosc. Cafwyd cyfle i weld canol y dref a ailadeiladwyd yn gain ar ôl dinistr y rhyfel. ?Mae rhagor am y daith hon i’w weld ar dudalen Hanes/Lluniau wefan.
Mae?r côr hefyd wedi teithio?n eang, gan gynnwys cyngherddau yn yr Almaen, Awstria, Gwlad P?yl, a Phr?g, lle y canodd mewn cyngherddau yn Eglwys St Nicolas, ar yr hen sgw?r, ac yn neuadd y dref, Nusle. Bu?r côr ar daith i Awstria a?r Almaen yn 2004 gyda chyngherddau yn eglwys gadeiriol Salzburg, Mondsee, Zell am See a Grafing ger Munich.
Yn 2005 teithiodd i Berlin a Wittenberg, ac yn 2007 bu?n canu yn eglwys gadeiriol Barcelona, eglwys abaty Montserrat ac eglwys St Pacia.
Elgar Morris
Trist yw gorfod cofnodi marwolaeth Elgar Morris, gwr Eleri a thad Elid ac Emyr, y tri ohonynt yn aelodau ffyddlon o’r côr. Roedd Elgar yn gefnogwr brwd, a mwynhaodd sawl taith dramor yng nghwmni’r côr. Fe’i cofir yn wr diymhongar, bonheddig, eang ei wybodaeth a’i ddiddordebau, ac fel hoff gyfaill aelodau’r côr.