Mae’r côr wedi cynnal cyngherddau gyda nifer o unawdwyr, yn rhai lleisiol ac offerynnol.
Mae Helen Gibbon, arweinydd y côr, yn unawdydd cyson yng nghyngherddau’r côr. Enillodd y wobr gyntaf am unwawd soprano yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac mae hi wedi canu a theithio’n eang yn Ewrop ac America.
Yn ddiweddar mae Teifryn Rees, y canwr tenor poblogaidd wedi cymryd rhan mewn sawl cyngerdd, a chanu gyda’r côr yn Barcelona.
Mae Fiona Gannon wedi cymryd rhan sawl gwaith mewn cyngherddau, gan gynnig caneuon ar y sacsoffon, gyda’i gwr Bill yn cyfeilio ar y piano.? Arbenigedd Fiona yw’r organ, a rhoddodd ddatganiad mewn sawl cyngerdd, gan gynnwys Barcelona.
Bu Sion Goronwy, y canwr opera (bas) yn canu gyda’r côr yn Berlin, a hefyd mewn cyngerdd yn Rhyd Uchaf, ger y Bala, yng nghapel ei bentref ei hun.
Pan oedd Heledd Mitchell yn byw yn Abertawe, roedd yn rhoi datganiadau cyson yng nghyngerddau’r côr, a chanodd y delyn hefyd yn ystod taith y côr i Awstria a Munich.