Category Archives: Newyddion

Cyngerdd Heol Awst

Y côr yn Heol Awst

Cafodd y côr groeso mawr yn Heol Awst, Caerfyrddin, nos Fercher, 13 Mawrth 2019, pan gyflwynon nhw noson o gân a cherdd i ddwy gangen o Ferched y Wawr yn eu dathliad Gwyl Ddewi. Canwyd caneuon o eiddo Eric Jones, Ryan Davies, Linda Gittins ac eraill. Canodd Helen Hwiangerdd Afon Tywi o waith Mererid Hopwood ac Eric Jones, a chafwyd adroddiadau gan Guto ap Gwent, Linda Williams a Catrin Alun. 

Plygain Llanddarog

Plygain

Mwynhaodd y côr gymryd rhan yng ngwasanaeth y Plygain yn Eglwys Llanddarog, nos Sul, 13 Ebrill, 2019. Cafodd y côr wledd yn nhy Janet cyn y noson, a gwledd wedyn yn yr eglwys ar ol canu.  Canodd y côr ddwy garol, gan gynnwys un o waith Maurice Loader, a’r gerddoriaeth gan Christopher Williams.

Janet yn cynnig paned a gwledd
Y côr yn ymarfer

GWASANAETH YN Y BABELL

 

Helen a Gwyn a’r côr

Cymerodd y côr ran yng Ngwasanaeth Carolau Capel y Babell, Caerfyrddin.  Darllenodd Helen nifer o rannau o’r ysgrythur, a darllenodd Geraint yng ngolau cannwyll.  Canodd y côr nifer o eitemau, Mwynhawyd danteithion yn y festri a noson braf wedyn yng nghartref Helen a Gwyn.  Diolch iddyn nhw am eu haelioni.

 

FFAIR NADOLIG

Roedd Ty Tawe o dan ei sang nos Wener 24 Tachwedd ar gyfer y Ffair Nadolig, a drefnwyd gan y Fenter Iaith.  Agorwyd y noson gan y côr, yn canu detholiad o garolau hen a newydd.  Cafwyd eitemau gan Aelwyd Clydach ac Ysgol Gerdd Llwynbrwydrau, a rhwng y stondinau crefftau a’r siop a’r bar, cafwyd noson wrth fodd pawb.

Helen yn archwilio’r stondinau cyn canu

Y côr yn barod i ganu

Saib cyn canu i Ysgol Gerdd Llwynbrwydrau

CYNGERDD LLANDEILOFERWALLT

 

Helen a’r côr

Daeth llond neuadd yn Llandeiloferwallt i glywed cyngerdd haf Côr Ty Tawe nos Lun, Mehefin 19, 2018.  Canodd y côr ddeg o ganeuon Cymraeg, gan gynnwys medli o ganeuon Ryan Davies, Ym Mhenrhyn Gwyr o waith Mererid Hopwood ac Eric Jones, Cân Walter Meic Stevens, Ffalabalam, a Tangnefeddwyr, eto gan Eric Jones.

Canodd Helen Hedd yn y Dyffryn, o waith Nan Lewis ac Eric Jones.  Cafwyd cyflwyniadau o ddarnau barddoniaeth gan Sali Wyn, Heini, Guto, Linda a Catrin. John Evans oedd yn cyfeilio.

Diolchwyd i’r côr gan Prys Morgan.

DATHLU’R NADOLIG

Sali Wyn yn anrhegu Helen

Cafodd aelodau’r côr amser da yn eu cinio Nadolig ym mwyty’r Tapestri, Abertawe.  Ar ôl gwledd cafwyd sesiwn o ganu, ac aelodau’r côr yn dangos meistrolaeth ar yr eitemau a ddysgwyd yn ystod y tymor.

GERAINT YN SERENNU

Geraint yn canu gyda’i fand, Ffenestri

Mae Geraint James, un o faswyr y côr, yn teithio Cymru, wrth i’w fand, Ffenestri, atgyfodi.  Canodd y band mewn cyngerdd yn Nhy Tawe 30 mlynedd yn ôl, a daeth y band i Dy Tawe ar ddiwedd wythnos y dathlu, Hydref 21.

MEDI A HYDREF 2017

CYNGERDD DATHLU TY TAWE

Cafodd y côr sylw mawr ar Raglen Heno pan gymerodd ran yn noson gyntaf dathlu Ty Tawe’n 30 oed. Nos Fercher, Hydref 11 oedd hyn. Mwynhaodd pawb naw o eitemau gan y côr a’r canu i bawb.  Dyma noson olaf Helen Gibbon cyn iddi deithio i Batagonia, lle y bydd yn arwain cymanfa ac yn beirniadu mewn eisteddfod yn y Wladfa.  Edrychwn ymlaen at ei chael yn ailafael, ond yn y cyfamser mae John Evans yn arwain ac yn cyfeilio’n ddeheuig.

CAPEL Y WERN

Nos Sul, Medi 24, cymerodd y côr ran mewn Cymanfa Ganu yng Nghapel y Wern, Ystalyfera, gyda Helen Gibbon yn arwain y Gymanfa a’r Côr.  Ymunodd y côr i ganu Benedictus, o waith Robat Arwyn, gyda Chôr Dathlu Cwm Tawe.