Trist iawn yw cofnodi marwolaeth Henry Dare, un o’n haelodau brwd a ffyddlon. Bu’n aelod ers nifer o flynyddoedd. Daeth i Abertawe o Lundain, ac roedd wrth ei fodd yn dysgu’r Gymraeg a dod yn rhan o gymdeithas Gymraeg y ddinas. Yn ffermdy Killay Fawr roedd ganddo berllan, a byddai gwin afalau Harry’n cael ei fwynhau ar wahanol achlysuron. Y tro olaf iddo ganu gyda’r côr oedd yn nathliad Gwyl Ddewi eleni. Roedd yn hoff o gymdeithasu cyn ac ar ôl y côr a bydd aelodau’r côr yn ei golli’n fawr.
Roedd Henry’n un o ddisgynyddion y teulu Morris a sefydlodd Dreforys, ac yn gallu olrhain ei achau i Owain Gwynedd. Roedd ganddo ddiddordeb byw mewn hanes lleol. Ers 2000 roedd yn rheolwr ystad y teulu.

Braint i Gôr Ty Tawe oedd canu yn nhe coffa Henry Dare yng ngwesty Morgan‘s, Abertawe, 29 Ebrill, 2023. Rhoes y cyflwyniadau ddarlun llawn o‘i fywyd, gan gynnwys ei ddyddiau cynnar yn Llundain, ei waith gyda mudiadau sosialaidd, ei ymrwymiad wrth y Gymraeg ar ôl dod i Abertawe, a’i waith gydag ystad ei deulu ar dir fferm Pontlasau. Soniwyd am ei foneddigeiddrwydd a‘i ysbryd cyfeillgar. Bydd colled ar ei ôl mewn sawl cylch.

