Category Archives: Newyddion

YMARFERION

Mwynhaodd y côr ymarferion cyson trwy gydol y tymor, gan ddysgu nifer o ddarnau newydd a heriol.

John yn cyfeilio / Catrin yn gwenu / Sali Wyn y cadeirydd yn annerch / sgwrs amser egwyl / y tenoriaid yn canolbwyntio

img_2650img_2652

img_2645img_2651

img_2649

img_2644

CAPEL Y NANT 2016

Cododd Capel y Nant, Clydach ?250 tuag at eu helusennau pan ddaeth Côr Ty Tawe i ganu yno ym mis Tachwedd. Canodd y côr raglen Nadoligaidd, gan gynnwys eistemau newydd iddyn nhw, gan Gareth Glyn, John Rutter a Meirion Wynn Jones.

Y côr yn paratoi / Robat Powel yn annerch / John wrth y piano / Helen yn Nadoligaidd

img_2694 img_2695 img_2696 img_2697

BARBYCIW HAF

Mwynhaodd aelodau’r côr un o nosweithiau sych dechrau Gorffennaf pan gafodd y barbyciw blynyddol ei gynnal.? Daeth yr aelodau ? danteithion o bob math.? Uchafbwynt y noson oedd dadorchuddio cerflun o Hebe, duwies ieuenctid a merch gyfreithlon Zeus a Hera, sy’n offrymu neithdar i’r duwiau.? Rhoddodd Helen, arweinydd y côr, ddarlith ar dduwiau Groeg, a chafodd y cerflun drudfawr ei ddadorchuddio gan Linda.? Rhybuddiodd David y byddai’r ardd gerfluniau’n dod yn gyrchfan pererindodau.

Gwyn yn coginio

Gwyn yn coginio

Bwyta brwd

Bwyta brwd

Helen yn darlithio

Helen yn darlithio

Linda'n dadorchuddio

Linda’n dadorchuddio

 

Yn barod am y bwyd

Yn barod am y bwyd

David yn rhybuddio am y pererindodau

David yn rhybuddio am y pererindodau

gwin a mwy

gwin a mwy

Linda fel Hebe

Linda fel Hebe

CYNGERDD HAF 2016

LLANDEILOFERWALLT

Nos Lun, Mehefin 20, pan gurodd Cymru Rwsia 3-0, bu’r côr yn canu i gymdeithas Gymraeg Llandeiloferwallt.? Cafwyd hwyl arbennig ar ddwy g?n gan Bruckner a hefyd Yno yn Hwyrddydd Ebrill.? Cafwyd unawdau gan Heledd Evans a Helen Gibbon.? John Evans oedd yn cyfeilio.

EISTEDDFOD YR HENDY 14 MAI 2016

Cafodd y côr noson lwyddiannus yn Eisteddfod yr Hendy, nos Sadwrn 14 Mai.? Canodd y côr ddwy eitem, Tair C?n Hwngaraidd a Hwyrddydd Ebrill.?? Daeth y côr yn drydydd a chael gwobr sylweddol, diolch i haelioni’r eisteddfod.

Y côr yn ymarfer

Y côr yn ymarfer

Helen yn mynd i hwyl

Helen yn mynd i hwyl

Trafod cerddorol

Trafod cerddorol

trafodaeth tacteg

trafod tacteg

Rex yn chwilio am wenoliaid y bondo

Rex yn chwilio am wenoliaid y bondo

sopranos yn gwybod eu gwaith

sopranos yn gwybod eu gwaith a Rex yn dal i chwilio

David a Linda'n hapus cyn y canlyniad

David a Linda’n hapus cyn y canlyniad

DATHLU GWYL DDEWI

Bu’r côr yn dathlu Gwyl Ddewi ddwy waith: y tro cyntaf gyda noson o Gawl a Ch?n yn Nhy Tawe, a’r ail dros ar y Sadwrn, yn rhan o ddathliadau Aberdewi.

Cawl a ch?n 2016

Cawl a ch?n 2016

Helen yn arwain

Helen yn arwain

Yn Nhy Tawe cafwyd gwledd o Gawl a danteithion eraill, bargen i’r rhai a ddaeth i glywed y côr.

Cafodd y côr ganu yn Stryd Rhydychen fel rhan o ddathliadau Gwyl Ddewi, yn dilyn perfformiadau gan Ysgolion Lôn-las a Gellionnen, a chyn perfformiad Wynne Roberts, yr Elvis Cymraeg.

Dathliad Aberdewi

Dathliad Aberdewi

Y côr yn canu yn Stryd Rhydychen

Y côr yn canu yn Stryd Rhydychen

CANU YN YR ARDD

Helen a'r sopranos

Helen yn hapus

Cafodd y côr dipyn o hwyl fore Sadwrn, Tachwedd 14, yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol yn Llanarthne. Canodd y côr am awr a hanner dan do cromen yn y ty gwydr. Er bod y gwynt yn arw a’r glaw’n arllwys y tu allan, cafodd y côr groeso brwd gan stondinwyr yr ?yl anrhegion a’r gwrandawyr ger byrddau’r caffe.

John yn yr ardd

John yn cyfeilio

sopranos ac ati

rhai o’r merched

baswyr a thenoriaid

rhai o’r dynion

ELID YN MYND I GAERDYDD

Bydd colled fawr ar ôl Elid Morris, sydd wedi symud i Gaerdydd i ddilyn swydd a chalon. Bu Elid yn aelod o’r côr ers 20 mlynedd, a bu ganddi sawl swydd yn y côr. Bydd yr altos yn gweld ei heisiau’n fawr. Cawn ei hanes gan Emyr ac Eleri.

IMG_1516

CYNGERDD Y BONT

CYNGERDD YM MHONTARDDULAIS

Ddiwedd Medi cynhaliodd y côr gyngerdd i Ferched y Wawr, Pontarddulais yn Stiwt y Bont. Canodd y côr ddetholiad o’i raglen o ganeuon Cymraeg.? Cymerodd deunaw aelod o’r côr ran yng nghyngerdd dathlu 50 mlwyddiant Côr Waunawrlwydd, yn y Tabernacl, Treforys ar y 7fed o Dachwedd.

Bydd cyngerdd nesaf yn côr yn yr Ardd Fotaneg fore Sadwrn, Tachwedd 14.

IMG_1515