Mwynhaodd y côr eu cinio Nadolig ym mwyty’r Belle Vue, Abertawe, nos Sadwrn, Rhagfyr 15. Cafwyd bwyd da a thipyn o ganu a chwmni da.
Category Archives: Lluniau
Plygain Llanddarog
Plygain
Mwynhaodd y côr gymryd rhan yng ngwasanaeth y Plygain yn Eglwys Llanddarog, nos Sul, 13 Ebrill, 2019. Cafodd y côr wledd yn nhy Janet cyn y noson, a gwledd wedyn yn yr eglwys ar ol canu. Canodd y côr ddwy garol, gan gynnwys un o waith Maurice Loader, a’r gerddoriaeth gan Christopher Williams.
GWASANAETH YN Y BABELL
Cymerodd y côr ran yng Ngwasanaeth Carolau Capel y Babell, Caerfyrddin. Darllenodd Helen nifer o rannau o’r ysgrythur, a darllenodd Geraint yng ngolau cannwyll. Canodd y côr nifer o eitemau, Mwynhawyd danteithion yn y festri a noson braf wedyn yng nghartref Helen a Gwyn. Diolch iddyn nhw am eu haelioni.
FFAIR NADOLIG
Roedd Ty Tawe o dan ei sang nos Wener 24 Tachwedd ar gyfer y Ffair Nadolig, a drefnwyd gan y Fenter Iaith. Agorwyd y noson gan y côr, yn canu detholiad o garolau hen a newydd. Cafwyd eitemau gan Aelwyd Clydach ac Ysgol Gerdd Llwynbrwydrau, a rhwng y stondinau crefftau a’r siop a’r bar, cafwyd noson wrth fodd pawb.
Y côr yn barod i ganu
Saib cyn canu i Ysgol Gerdd Llwynbrwydrau
DATHLU’R NADOLIG
BARBYCIW HAF
Mwynhaodd aelodau’r côr un o nosweithiau sych dechrau Gorffennaf pan gafodd y barbyciw blynyddol ei gynnal.? Daeth yr aelodau ? danteithion o bob math.? Uchafbwynt y noson oedd dadorchuddio cerflun o Hebe, duwies ieuenctid a merch gyfreithlon Zeus a Hera, sy’n offrymu neithdar i’r duwiau.? Rhoddodd Helen, arweinydd y côr, ddarlith ar dduwiau Groeg, a chafodd y cerflun drudfawr ei ddadorchuddio gan Linda.? Rhybuddiodd David y byddai’r ardd gerfluniau’n dod yn gyrchfan pererindodau.
EISTEDDFOD YR HENDY 14 MAI 2016
Cafodd y côr noson lwyddiannus yn Eisteddfod yr Hendy, nos Sadwrn 14 Mai.? Canodd y côr ddwy eitem, Tair C?n Hwngaraidd a Hwyrddydd Ebrill.?? Daeth y côr yn drydydd a chael gwobr sylweddol, diolch i haelioni’r eisteddfod.
Dathlu’r Wyl, 2015
Dathlu Gwyl Ddewi yn Abertawe
Bu’r côr yn canu ganol dydd, Chwefror 28, yn y babell berfformio ger y farchnad, yn rhan o ddathliadau Gwyl Ddewi’r ddinas.? Yna ymunodd aelodau’r côr ?’r orymdaith o gannoedd o gwmpas strydoedd canol y ddinas, gan ganu hwnt ac yma.
Helen ar y llwyfan
Cafodd Helen Gibbon, Arweinydd Côr Ty Tawe, yr ail wobr ar yr unawd soprano yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nglyn Ebwy.? Llongyfarchiadau mawr iddi!
Barbyciw haf
Cafwyd gwledd o farbyciw haf ar Orffennaf 24, ar ôl i’r ymarferion ddod i ben.
Tri o gogyddion brwd y barbyciw. Continue reading