CYNGERDD YM MHONTARDDULAIS
Ddiwedd Medi cynhaliodd y côr gyngerdd i Ferched y Wawr, Pontarddulais yn Stiwt y Bont. Canodd y côr ddetholiad o’i raglen o ganeuon Cymraeg.? Cymerodd deunaw aelod o’r côr ran yng nghyngerdd dathlu 50 mlwyddiant Côr Waunawrlwydd, yn y Tabernacl, Treforys ar y 7fed o Dachwedd.
Bydd cyngerdd nesaf yn côr yn yr Ardd Fotaneg fore Sadwrn, Tachwedd 14.