Archif: Mehefin 2026

NOSON GAROLAU, 15 Rhagfyr 2025

Uchafbwynt y noson garolau oedd datganiad y côr o bump o garolau gan Daniel Protheroe, wedi eu trefnu gan Edward-Rhys Harry. Ymysg eitemau eraill gan y côr roedd Rhown Foliant o’r Mwyaf gan Rhys Pritchard, ar alaw W.S.Gwynn Williams, ac Awn i Fethlem, eto gan Rhys Pritchard, ar alaw Gymreig. Canodd Catrin a Linda Suai’r gwynt, a chanodd Bill y Tri Brenin, cyfieithiad Fiona o garol Peter Cornelius. Canodd Fiona ddwy eitem ar y piano, yn drefniannau o Ganol Gaeaf Noethlwm a Dawel Nos. Adroddodd Carey Thomas y gerdd Neithiwr gan Crwys ac adroddwyd Ar Noson fel Heno gan T. Llew Jones gan Helen Evans.

Cyngerdd Gwyl Ddewi 2 Mawrth 2026

Ar yr 2il o Fawrth cafwyd noson hwyliog yn Nhy Tawe. Canoff y côr wyth o ganeuon, gan gynnwys Yr Utgorn o waith Pedr Fardd, ar alaw gan W. Matthews Williams, Salm 23 gan Euros Rhys Evans, Ar lan y môr wedi ei threfnu gan Alan Ll. Thomas. Canodd Llywelyn Gannon y gân fywiog, Cloc Tad-cu ar offeryn chwyth. Adroddodd Catrin Alun y gerdd Dewi Sant gan Robat Powel, a chanodd Bill Gannon Tra bo dau. Adroddodd Linda Williams y gerdd ddoniol a phigog, Over the Llestri gan gan Aled Lewis Evans. Gorffennodd y côr gyda Y Cwm gan Huw Chiswell a Tangnefeddwyr ar gerddoriaeth Eric Jones.