Ymuno?

Ydych chi’n gallu canu?? Ydych chi wedi ystyried ymuno ?’r côr? Mae croeso i aelodau newydd.

Os ydych chi’n hoff o ganu, ac yn gallu gwneud, yn enwedig os oes gennych brofiad o ganu mewn côr eisoes, mae croeso ichi wneud cais i ymuno ?’r côr.

Mae ymarferion y côr yn Gymraeg, ac mae croeso i rai sy’n siarad yr iaith ac i ddysgwyr sy’n benderfynol o’i dysgu: bydd y côr yn cynnig cyfle da i ddysgwyr ddefnyddio’r iaith.

Ymlacio cyn canu yn Wittenberg

Mae croeso mawr i gantorion o bob llais, ac yn enwedig i bobl ifanc.

Os nad oes gennych brofiad o ganu mewn côr, mynnwch air ag arweinydd y côr a fydd yn gallu dweud wrthych am y cyfle i ymuno. Mae’n bosib y trefnir gwrandawiad byr.

Ebostiwch un o’r canlynol:

Cadeirydd: Linda Williams: ebost linda.williams123@btinternet.com

Ysgrifennydd: Marian Davis: ebost clecs49@yahoo.co.uk

Trysorydd: Catrin Alun: catrinalun@btinternet.com

Is-Gadeirydd: Heini Gruffudd: ebost heini@gruffudd.org

Arweinydd: Helen Gibbon: helengibbon1@btinternet.com