Mefus a Mwy Haf 2015

MEFUS A MWY

Cafodd yr haf ei ddathlu gyda noson hwyliog iawn yn Nhy Tawe, nos Fercher, Gorffennaf 8, 2015. Cafodd pawb bowlen hael o fefus, a detholiad blasus o deisennau a phice. Canodd y côr naw o eitemau gan gynnwys tair o rai newydd. Helen Gibbon oedd yn arwain a Fiona Gannon wrth y piano. Canodd Jenny g?n hyfryd Amser Haf, Bill oedd unawdydd Dal hi’n Dynn, ac arweiniodd Helen Evans y canu gyda’r gynulleidfa.

Helen yn arwain

Helen yn arwain

Fiona wrth y piano

Fiona wrth y piano

Helen gyda'r cantorion

Helen gyda’r cantorion